Datganiadau i'r Wasg

Pennod Newydd yn Hanes y Diwydiant Gwlân yng Nghymru

Ar ôl bron i 60 mlynedd o weithio yn y diwydiant gwlân, mae Raymond a Diane yn ymddeol, a bydd Amgueddfa Cymru yn croesawu casgliad gwych Melin Teifi o beiriannau.

Ers 1982 mae Melin Teifi wedi bod yn gweithredu ar safle’r hen felin Cambrian yn Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin, sydd yn gartref i Amgueddfa Wlân Cymru. Sefydlwyd Melin Teifi ym 1982 gan Raymond a Diane Jones ar ôl i Felin Cambrian, lle buont yn gweithio am 18 mlynedd, gau.


Dros y 40 mlynedd ddiwethaf mae’r felin, a’i thîm o grefftwyr profiadol, wedi bod yn rhan annatod o brofiad ymwelwyr ag Amgueddfa Wlân Cymru.


Ychydig iawn o felinau gwlân sydd ar ôl yng Nghymru, ac mae Amgueddfa Cymru yn caffael Melin Teifi yn golygu y bydd y peiriannau yn aros yn eu lle ac yn cael eu gwarchod a’u defnyddio i barhau â thraddodiad gwehyddu gwlân yng Nghymru.


Dywedodd Ann Whittall, Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru:


“Mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi gweithio’n agos gyda Raymond a Diane dros y 40 mlynedd ddiwethaf; byddwn yn eu colli’n fawr ar y safle.

 Mae eu hangerdd, eu brwdfrydedd a’u harbenigedd wedi cyfoethogi ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad o’r diwydiant gwlân ac wedi cynnig golwg unigryw i’n hymwelwyr ar fywyd mewn melin wlân.


Mae caffael y peiriannau a’r gwyddiau hanesyddol yn sicrhau y bydd Amgueddfa Cymru yn gallu cynnal traddodiad gwehyddu gwlân yng Nghymru i genedlaethau’r dyfodol. Bydd yn galluogi ein crefftwyr i barhau â’u hyfforddiant a datblygu eu sgiliau wrth iddynt gynhyrchu carthenni gwlân o safon.


Hoffai pawb yn Amgueddfa Wlân Cymru ddiolch yn fawr i Raymond a Diane am eu cyfraniad i ddiwydiant gwlân Cymru, a dymuno ymddeoliad hapus iawn iddynt.


Nid diwedd y stori yw hon, ond yn hytrach pennod newydd yn hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru.”


Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.


Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol.


Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, ac mae croeso i bawb o bob cymuned.


Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
www.amgueddfa.cymru


Diwedd