Datganiadau i'r Wasg

Galw am artistiaid – Safbwynt (iau): dod â'n straeon at ei gilydd

Mae Safbwynt(iau) yn gydweithrediad newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio sicrhau newid sylweddol i sut mae sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth yn dangos amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y prosiect gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gydymdrech i gyflawni nodau diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mae saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol sydd wedi'u dewis i weithio mewn partneriaeth â'r saith amgueddfa genedlaethol i gyflwyno rhaglen o newid a fydd yn parhau am ddwy flynedd i greu sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth sy'n decach, yn fwy cyfartal ac yn fwy cynrychioliadol. 

Mae'r saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol nawr yn awyddus i gomisiynu gweithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i weithio gyda nhw a'u hamgueddfeydd partner.

Bydd y gwaith yn golygu gweithio gydag un bartneriaeth gydag amgueddfa a sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol i gwestiynu a herio'r ffyrdd cyfredol o feddwl yn y sefydliadau, gan ymgysylltu â chymunedau i ddarganfod safbwyntiau a straeon newydd ac archwilio  sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth drwy sbectol wrth-hiliol a dad-drefedigaethol. Bydd partneriaeth a chyd-greu wrth wraidd y prosiect. Bydd cyfle i greu arddangosfeydd, arddangosiadau a phrofiadau newydd a fydd yn ysgogi ac yn herio'r cyhoedd.

Dros y ddwy flynedd, bydd y saith gweithiwr creadigol proffesiynol yn gweithio gyda'r amgueddfeydd a'r sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol i adrodd straeon sydd heb eu hadrodd o’r blaen, creu ymatebion artistig a gweithredu fel asiantau er newid. Gallai gweithwyr proffesiynol creadigol gynnwys artistiaid, gwneuthurwyr, curaduron, awduron neu ymarferwyr eraill sy'n gweithio yn y celfyddydau gweledol.

Mae Cyngor y Celfyddydau ac Amgueddfa Cymru yn cydnabod bod llais unigolion a chymunedau diwylliannol ac ethnig amrywiol wedi cael eu gwthio i'r cyrion yn ein horielau a’n hamgueddfeydd cenedlaethol. Credwn y dylai diwylliant yng Nghymru adlewyrchu bywyd ei holl ddinasyddion. Mae’r fenter yn rhan o broses ehangach o newid, gan weithio ar y cyd â chymunedau i sicrhau tegwch yn ein gwaith. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Safbwynt(iau) fel un o'n gweithwyr proffesiynol creadigol, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i un o'r sefydliadau celfyddydol unigol drwy glicio isod. Bydd ceisiadau'n agor ar 19 Mai 2023  ac yn cau ddydd Sul 18 Mehefin 2023.

Mae canllawiau Safbwynt (iau) ar gael yma.

Y saith sefydliad yw:

Artes Mundi, Caerdydd. Gweithio gydag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion.

Canolfan Gelfyddydol Chapter, Caerdydd. Gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Gweithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Galerie Simpson, Abertawe. Gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Canolfan Gelfyddydol Llantarnam Grange, Cwmbrân. Gweithio gyda Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon.

Oriel Myrddin, Caerfyrddin. Gweithio gydag Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre.

Ffyrdd o weithio/Ways of Working, Abertawe. Gweithio gydag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.

Mae Safbwynt(iau) yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gyflawni nodau diwylliannol a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Maent hefyd yn cael eu cefnogi gan arian loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn.

-Diwedd-

- Rydym yn diffinio ‘diwylliannol ac ethnig amrywiol' fel:

- Unrhyw un yng Nghymru ar wasgar o’r lleoedd hyn: Affrica, Asia, Caribî, Sbaen, y gwledydd Lladinaidd, Dwyrain Ewrop neu'r Dwyrain Canol

- Unrhyw un sy'n nodi ei fod yn dod o grŵp ethnig nad yw'n wyn yn unig 

- Unrhyw un o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr