Datganiadau i'r Wasg

Dewch i Ddarganfod os Taw Aur yw Popeth Melyn

Pam fod aur yn ddisglair? Pam fod gan rhai pryfed groen symudliw? Beth sy’n gwneud perlau? Pam fod rhai crisialau’n taenu’r golau? Am yr atebion i’r cwestiynau hyn a llawer mwy, beth am alw mewn i Oriel Glanely yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dros yr wythnosau nesaf?

Nid Aur yw Popeth Melyn yw thema mis Rhagfyr yn yr oriel ddarganfod, ac mae digonedd o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer pawb. Rydym yn cynnig gweithgareddau creadigol, yn gwneud addurniadau tymhorol ar sail trysorau daearegol, yn creu lluniau o bryfed amryliw ac yn cymryd rhan yn holl hwyl yr ŵyl.

10 & 11 Rhagfyr – Dewch i ddysgu mwy am drysorau’r ddaear a defnyddiwch y casgliad mwynau i wneud pelen i’w gadw.

18 – 30 Rhagfyr – Pam fod rhai anifeiliaid mor anhygoel o ddisglair? Gwnewch gampwaith celf ar sail beth welsoch chi.

31 Rhagfyr – Gwnewch ddyddlyfr arbennig i gofnodi’ch teimladau yn ystod 2006.

Mae’r oriel hon yn fodd i chi gyffwrdd ac astudio nifer o’n gwrthrychau, a gyda chymorth yr arbenigwyr, adnabod eich casgliadau eich hun. Neu os ydych am wybod mwy am y darganfyddiadau diweddaraf ym myd celf neu archaeoleg, mae gan Oriel Glanely gasgliad helaeth o wybodaeth i’ch cynorthwyo. Mae llond y lle o adnoddau cyfoes.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Mae mynediad i’r Amgueddfa am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:

Siân James, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd
Ffôn: 029 2057 3185 / 07970 016058
E-bost: sian.james@amgueddfacymru.ac.uk