Datganiadau i'r Wasg

Gwobr yn Benllanw Blwyddyn Lwyddiannus i Big Pit

Dechreuodd Big Pit 2006 gan ddathlu ennill gwobr arbennig am ei waith addysg.

Bu 2005 yn flwyddyn arbennig iawn i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru gyda mwy o ymwelwyr nac erioed o'r blaen, a chyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod yr amgueddfa wedi ennill gwobr arbennig BECTA (British Educational Communications Agency) ym maes TGCH, am eu gwaith mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd.

Enillodd Big Pit y wobr am eu hadnodd ar-lein, Plant y Chwyldro, sy'n astudiaeth hanesyddol o fywyd gwaith ym Mlaenafon yn ystod y 19eg ganrif. Mae'n galluogi plant i edrych ar sut oedd bywyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod diwydiannol cynnar, gan ddefnyddio fideo, ymarferiadau modelu, a mapio rhwydweithiol.

Cynhyrchwyd yr adnoddau ar-lein drwy rwydwaith datblygu proffesiynol, a ran-ariannwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru,

Wrth groesawu'r wobr, dywedodd Peter Walker, Rheolwr a Cheidwad Big Pit:

“Roedd y llynedd yn flwyddyn arbennig i Big Pit. Cawsom bron i 157,000 o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn, a bu ein llwyddiant wrth ennill Gwobr Gulbenkian am amgueddfa orau Prydain yn hwb aruthrol i ni yn ystod 2005,”

“Rydym yn hynod falch bod ein gwaith addysg a'r hyn a wnaethpwyd gyda Chyngor Casnewydd wedi cael ei gydnabod drwy'r wobr bwysig hon. Buom yn ddigon ffodus i dderbyn Gwobr Sandford am ein gwaith addysg ym maes treftadaeth ym mis Tachwedd, ac mae gwobr BECTA yn cadarnhau y gwaith ardderchog rydym yn ei wneud ym maes addysg.”

Croesawyd llwyddiant Amgueddfa Cymru gan Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Meddai: “Mae'r wobr hon yn benllanw blwyddyn arbennig o lwyddiannus i Big Pit. Mae rhaglen addysg gynhwysfawr yn rhan annatod o'r hyn y gall amgueddfa ei gynnig i helpu ymwelwyr i wneud y gorau o'u hymweliad. Mae'r wobr yma yn gydnabyddiaeth bellach o'r rôl sydd gan yr amgueddfa i'w chwarae yn y gwaith o addysgu pobl am ran bwysig o hanes ein cenedl.”

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Plant y Chwyldro

Mae'r adnoddyn cyffrous hwn yn helpu i wella gwybodaeth a dealltwriaeth plant am hanes, ac yn datblygu eu medrau a'u hyder ym meysydd TGCh a Llythrennedd. Mae'r adnoddyn yn cynnwys:

  1. Cyfoeth o ddeunyddiau o ffynonellau gwreiddiol a fydd ar gael i ysgolion am y tro cyntaf
  2. Cronfa o adnoddau gan gynnwys delweddau a gwybodaeth ategol
  3. Taflenni gwaith a gweithgareddau sy'n addas i'w hargraffu a'u hastudio ar-lein
  4. Amrywiaeth o brofiadau aml-gyfrwng i i gyfoethogi dysgu, gan gynnwys:
    Taith rithwir o gwmpas cartref gweithiwr haearn o ganol y 19eg Ganrif
    Map rhyngweithiol
    Cyfle i fynd yn gwmni i Arolygydd sy'n edrych ar amodau gwaith plant o dan y ddaear
    Nifer o fideos arbennig? a llawer iawn mwy!!

A: 'Iron Town - Blaenavon and its part in the Industrial Revolution' - fideo sy'n dangos pwysigrwydd Blaenafon wrth ddiwydiannu'r byd i gyd!