Datganiadau i'r Wasg

Bioamrywiaeth — Beth ar y ddaear?

Ydyn ni'n deall digon am fioamrywiaeth? Mae arddangosfa rhyngweithiol arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyfle i ddysgu pam fod angen bioamrywiaeth a sut y gall ein helpu i wynebu heriau fel newid hinsawdd a sut i fwydo'r byd.

Holl amrywiaeth pethau byw – planhigion, anifeiliaid a microbau, a'r holl lefydd lle mae nhw'n byw – yw ystyr. ‘bioamrywiaeth'. Mae'r amrywiaeth yma'n cyflawni ein holl anghenion – bwyd, meddyginiaeth, tanwydd, awyr iach a d_r. Ond mae'n dod â phethau dydyn ni ddim eisiau hefyd fel heintiau sy'n rhy gryf i feddyginiaeth gwrthfiotig cyffredin, planhigion estron ymledol ac afiechydon marwol newydd, fel ffliw adar.

Mae deall bioamrywiaeth yn hanfodol.Os ydyn ni'n gwybod sut mae bioamrywiaeth yn gweithio, gallwn wneud penderfyniadau mwy cynaliadwy o ran sut i ddefnyddio tir a chadw rhywogaethau.

Mae'r arddangosfa arbennig sy'n rhedeg tan 23 Ebrill yn gyfle ardderchog i ddysgu mwy am y gwyddoniaeth sydd y tu ôl i fioamrywiaeth. Gyda gweithdai ac adnoddau arbennig ar gyfer ysgolion i gyd-fynd â'r arddangosfa, dewch i glywed beth mae gwyddonwyr bioamrywiaeth yr Amgueddfa'n ei wneud yng Nghymru ac o gwmpas y byd a sut mae gwneud i fioamrywiaeth weithio drosom ni.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o fanylion cysylltwch â
Siân James, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
02920 573185 / 07970 016058
sian.james@amgueddfacymru.ac.uk