Datganiadau i'r Wasg

Cynhesu Byd-eang

Ar 24 Ionawr, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal darlith i lansio Fforwm Addysg Gwyddorau Daear (Cymru), menter newydd bwysig i gydlynu diddordebau a gwaith grwpiau sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg y Gwyddorau Daear ledled Cymru.

Yr Athro Paul Pearson o Brifysgol Caerdydd fydd yn rhoi'r ddarlith o'r enw Cynhesu Byd-eang – Ddoe, Heddiw ac Yfory. Mae'r Athro Pearson yn ymddiddori mewn casglu gwybodaeth am yr hinsawdd o greiddiau a sedimentau yn ddwfn yn y môr. Mae'n arbenigo mewn astudiaethau am esblygiad a geogemeg, a beth mae'r rhain yn ei ddweud am hanes hir y newid yn yr hinsawdd ar y Ddaear.

Bydd y ddarlith yn pwysleisio sut mae'r geowyddonwyr yn defnyddio'r cofnod daearegol i ddehongli hinsawdd y gorffennol ac chreu modelau i roi syniad i ni beth fydd yn digwydd yn y presennol a'r dyfodol.

Mae Amgueddfa Cymru'n adnabyddus ar y llwyfan ryngwladol am ansawdd a pherthnasedd ei harddangosfeydd. Ffaith sy'n llai adnabyddus efallai yw'r ffaith ei bod hi'n sefydliad wyddonol bwysig – a'i harddangosfa fawr yma am Esblygiad Cymru yw un o'r arddangosfeydd gorau un am hanes y ddaear unrhyw le yn y byd.

Mae'n sicr yn llai adnabyddus fod yr Amgueddfa'n ganolfan ymchwil bwysig ar gyfer y Gwyddorau Daear a Natur. Mae'r Amgueddfa'n gwneud gwaith pwysig i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am themâu gwyddonol, ac mae hi wedi cyhoeddi pedwar cyhoeddiad pwysig am faterion cyfoes yn y maes yn ddiweddar.

Mae Gweledigaeth yr Amgueddfa ar gyfer y dyfodol yn rhestru'r dymuniad i arwain a thrafod materion cyfoes o bwys fel un o'i phrif flaenoriaethau dros y blynyddoedd nesaf.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Siân James, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
029 2057 3185 / 07970 016058
sian.james@amgueddfacymru.ac.uk