Datganiadau i'r Wasg

Priodas Eglwys ar y Glannau?

Ai selebs a chariadon pennaf Cymru , Gavin Henson a Charlotte Church, fydd y cyntaf i briodi yn Amgueddfa Genedlaethol newydd y Glannau yn Abertawe?

Rhoddodd Gavin sêl ei fendith i'r Amgueddfa £33.5 miliwn newydd - ar yr un diwrnod y cafodd ei lansio fel lle diweddaraf Abertawe i gynnal priodasau.

Achosodd seren y Gweilch dipyn o gyffro ymysg yr ymwelwyr wrth fwynhau ychydig oriau yn yr Amgueddfa yn yr Ardal Forwrol hyfryd.

Mae'r Amgueddfa, sy'n adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru, newydd gael trwydded i gynnal priodasau sifil, ac mae disgwyl i barau fachu ar y cyfle i briodi yn yr adeilad gwych yma.

Ers iddi agori ym mis Hydref, mae miloedd o ymwelwyr wedi llifo trwy'r drysau. Yn ogystal â'r arddangosfeydd difyr, mae'r lleoliad ar gael i'w logi, ac mae ganddo gyfleusterau i gynnal gwleddoedd, cynadleddau busnes a digwyddiadau eraill.

Nawr mae'n cynnig cyfle i gariadon briodi ar Falconi'r Marina gyda'i olygfeydd gwych dros y glannau.

Cafodd seren Cymru a'r Llewod ei siomi ar yr ochr orau gan ei ymweliad a ddigwyddodd ychydig ddyddiau cyn gêm y Gweilch yn erbyn Caerl_r yng Nghwpan Heineken (18 Rhag). Ar ôl cael cyfweliad ar Falconi'r Marina, lle siaradodd am ei gariad at rygbi a Charlotte, treuliodd Gavin, sy'n 23 oed, amser yn ateb ceisiadau am lofnod, a gadawodd neges yn y llyfr ymwelwyr yn disgrifio'r Amgueddfa fel “anhygoel a ch_l”.

“Mae'n lle gwych,” meddai.

Dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris ei fod e wrth ei fodd bod Gavin wedi mwynhau'r ymweliad, ac roedd e'n gobeithio y byddai'n dod eto, gyda Charlotte.

“Byddai'n hyfryd eu gweld nhw yma. Rwy'n credu ei bod hi ychydig bach yn gynnar i sôn am briodi, ond rwy'n si_r y bydd llawer o gyplau'n manteisio ar y cyfle i dreulio'u diwrnod mawr yn yr Amgueddfa.

"Mae llawer o bobol chwilio am ddewis arall yn lle priodi mewn eglwys neu swyddfa gofrestru'r dyddiau hyn, ac rwy'n credu y bydd y lle newydd yma'n ddewis poblogaidd am ei bod hi'n cynnig rhywbeth sydd ychydig bach yn wahanol.”

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae holl safleoedd Amgueddfa Cymru'n cynnig mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r llun yn dangos Gavin ar Falconi'r Marina yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cyswllt:

Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata (01792) 638970
fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk