Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru'n Dathlu Llwyddiant

Heddiw, (10 Chwefror 2006), cafodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ei chynnwys ar restr hir gwobr fawr Gulbenkian am Amgueddfa Orau'r Flwyddyn 2006. Agorodd yr Amgueddfa i'r cyhoedd yn Hydref 2005, ac mae'n un o gwta deg amgueddfa ledled Prydain i gael eu cynnwys ar y rhestr.

Mae'r gystadleuaeth – a enillwyd llynedd gan Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, un arall o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru – yn talu gwobr o £100,000. Mae'n cydnabod ac yn sbarduno gwreiddioldeb, dychymyg a rhagoriaeth mewn amgueddfeydd ac orielau ym Mhrydain, ac yn codi ymwybyddiaeth a mwynhad y cyhoedd o bopeth sydd ganddynt i'w gynnig. Mae'r cyhoeddiad wedi plesio Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan, yn fawr iawn:

“Mae cyrraedd rhestr Gwobr Gulbenkian eto eleni'n dipyn o gamp” meddai. “ Mae'n dangos heb amheuaeth bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi dal dychymyg pobl ledled Prydain ac mae'r sefydliad i gyd wrth eu bodd ar lwyddiant yr Amgueddfa.”

Mae amgueddfa genedlaethol ddiweddaraf Cymru'n adrodd stori diwydiant a blaengaredd yng Nghymru trwy lygaid ei phobl – a phobl y byd – trwy'r oesoedd. Fe'i hagorwyd yn swyddogol gan seren y bêl hirgron, Gareth Edwards, a Phrif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan, yn Hydref 2005. Mae hi eisoes wedi denu dros 60,000 o ymwelwyr.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n amgueddfa sy'n adlewyrchu bywydau prysur y 21ain ganrif. Mae'n lle i fwynhau os oes gennych 20 munud i'w sbario neu dair awr. Hi yw'r amgueddfa gyntaf i gael ei chynllunio gyda'r polisi mynediad am ddim mewn golwg. Mae hyn yn ei gwneud hi'n hwylus i ymwelwyr, dim ots beth yw hyd eu hymweliad.

Wrth glywed y cyhoeddiad, dywedodd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon:

"Mae hyn yn anrhydedd mawr i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn enwedig am mai dim ond ym mis Hydref yr agorodd ei drysau, ac am ei bod yn dilyn llwyddiant Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru'r llynedd. Mae cyrraedd rhestr hir y wobr flaenllaw hon yn cadarnhau ein cred bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn atyniad o safon ryngwladol ac yn broject blaenllaw sy'n cyfleu effaith fawr Cymru ar y byd.”

Crëwyd yr Amgueddfa diolch i bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe. Fe'i cynlluniwyd gan Wilkinson Eyre Architects, a datblygwyd yr orielau gan Land Design Studio mewn cydweithrediad agos â thîm Amgueddfa Cymru. Land Design Studio ddatblygodd yr arddangosfeydd rhyngweithiol mewn cydweithrediad agos â New Angle.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Siân James ar 029 2057 3185 / 07970 016058

The Museum Prize, cwmni elusennol a grëwyd yn 2001 gan gynrychiolwyr Treftadaeth Genedlaethol, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, y Gronfa Casgliadau Celf Genedlaethol a'r Ymgyrch dros Amgueddfeydd sy'n gweinyddu Gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn Gulbenkian. Cytunodd y cyrff hyn i roi'r gorau i'w cynlluniau gwobrwyo (gan gynnwys Amgueddfa'r Flwyddyn Treftadaeth Genedlaethol) a chefnogi'r wobr hon yn lle. Cadeirydd y Wobr Amgueddfeydd yw'r Arglwyddes Cobham. Cynrychiolwyr y pedwar corff gwreiddiol yw Ymddiriedolwyr y Wobr.

Sefydliad Calouste Gulbenkian sy'n ariannu Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau'r Flwyddyn. Cangen Prydain o Sefydliad Calouste Gulbenkian sy'n gyfrifol am roi cymorth grant ym Mhrydain a Gweriniaeth Iwerddon, ac mae'n cynnal rhaglenni cyllido ym myd y celfyddydau, lles cymdeithasol, addysg a chysylltiadau diwylliannol rhwng Prydain a Phortiwgal.