Datganiadau i'r Wasg

Burgess & Co.

BYDD baneri'n chwifio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'r wythnos yma (Gwe 10) i ddathlu agor arddangosfa arbennig.

Bydd yr arddangosfa'n cyflwyno hanes difyr un o gwmnïau llongau enwocaf Abertawe, Burgess & Co. ynghyd â rhai o faneri mwyaf adnabyddus byd llongau Cymru.

Am 150 o flynyddoedd, Burgess & Co. oedd un o enwau mwyaf y dociau a'r llongau oedd yn masnachu o Abertawe.

Dechreuodd y cyfan ym 1843 pan briododd James Edward Burgess â Mary Frances Baker, merch gwerthwr grawn o Ddyfnaint. Roedd y teulu bopty ar waelod Welcome Lane yn Abertawe.

Ym 1847 prynodd y teulu'r popty mecanyddol cyntaf yn ne Cymru i gynhyrchu bisgedi ar gyfer byd y llongau. Ar y môr, bisgedi oedd prif fwyd y morwyr. Wrth i borthladd Abertawe dyfu, tyfu hefyd wnaeth y galw am fisgedi, a buddsoddodd Burgess elw'r popty yn y llongau a'u cargo.

O 1851 ymlaen, roedd yn gwneud arian wrth fewnforio pren o Ganada ac ym 1862, prynodd ei lomg cyntaf, sgwner pren o'r enw'r Sarah Fox. Yr un flwyddyn, comisiynodd waith i adeiladu llong arall, y Patagonia.

Hwyliodd y llongau o dan faner coch ag arni ddisg lliw hufen, a chredir ei fod yn cynrychioli un o'u bisgedi enwog.

Bydd cyfres o baneri a chesys o bethau pob dydd oedd yn gysylltiedig â'r cwmni'n adrodd y stori.

Bydd baner Burgess yn chwifio yn yr Amgueddfa ynghyd â baneri'r cwmnïau y bu Burgess yn asiantau iddyn nhw ac am sawl yn arall sy'n gysylltiedig a byd y llongau.

Dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris: “ Mae byd y llongau wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad diwydiant yng Nghymru felly mae'n addas iawn y dylai'r arddangosfa yma ganolbwyntio ar un o gwmnïau llongau mwyaf adnabyddus Abertawe.”

Bydd yr arddangosfa'n rhedeg o ddydd Gwener, 10 Chwefror i ddydd Sul, 2 Ebrill.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cysylltwch â
Fay Harris
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
fay.harris@amgueddfacymru.ac.uk
01792 638970