Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Wlân Cymru yn Lawnsio Ymgyrch Farchnata Newydd

Mae 'na drysor cudd yn llechu yng nghefn gwlad Sir Gâr. Lle hudolus i ddod i ddarganfod yr hanes y tu ôl i decstiliau hyfryd Cymru.

Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd – tecstiliau moethus, arddangosfeydd neu'r croeso cynnes i ymwelwyr – cewch y cyfan oll yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre. Dyma le sy'n adrodd hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru'r gorffennol – ond cofiwch, mae mwy i'r diwydiant gwlân na pheiriannau mawr. A dyma sy'n cael ei ddangos yn ymgyrch farchnata a chyfathrebu newydd yr Amgueddfa.

Mae'r ymgyrch, sy'n cael ei lawnsio yr wythnos hon, yn canolbwyntio ar gynhesrwydd a nodweddion croesawgar yr Amgueddfa – rhai o elfennau mwyaf 'cwtchlyd' un o gyfrinachau mawr Cymru.

Bydd yr ymgyrch yn sicr o apelio at deuluoedd, at y rheini sydd heb ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru o'r blaen ac at y rheini sydd heb fod yn ôl ers eu hymweliad cyntaf. Mae'r prif neges, a fydd i'w weld ar bosteri, hysbysebion yn y wasg a chardiau post a fydd yn cael eu dosbarthu i 42,000 o gartrefi lleol, yn pwysleisio awyrgylch hudolus yr Amgueddfa.

Meddai Siân Thomas, Pennaeth Marchnata Amgueddfa Cymru:

“Dyma'r ymgyrch gyntaf o'i math gan Amgueddfa Cymru, gan ei bod yn sicrhau bod personoliaeth Amgueddfa Wlân Cymru yn rhan ganolog o'r ymgyrch gyfan. Mae hefyd yn gyfle i ni ddangos rhai o brif nodweddion yr amgueddfa mewn ffordd agos atoch.

“Roedden ni'n teimlo mai personoliaeth yr Amgueddfa, yn hytrach na digwyddiadau neu weithgareddau, fydd yn tanio dychymyg ac yn dal diddordeb pobl ardal de ddwyrain Cymru.

“Mae'r Amgueddfa yn agos iawn at galonnau y rheini sy'n byw yn Nhre-fach Felindre, a rydym yn mawr obeithio y bydd yr ymgyrch hon yn ein galluogi i ddatblygu ymhellach y teimlad o deyrngarwch a pherchnogaeth yn y pentrefi a'r trefi cyfagos.”

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru, (029) 2057 3175 / 07974 205 849.