Datganiadau i'r Wasg

Dewch i ddysgu mwy am Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae cyfres o sgyrsiau amser cinio wedi'u trefnu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gyd-fynd ag arddangosfa Artes Mundi, sydd i'w gweld yn yr Amgueddfa ar hyn o bryd.

Bydd y gyfres yn dechrau ddydd Gwener 17 Chwefror gyda chyflwyniad i Artes Mundi gan Louisa Briggs, Curadur Celfyddyd Fodern a Chyfoes, Amgueddfa Cymru.

Ymysg y siaradwyr eraill yn ystod y gyfres mae Tessa Jackson, Cyfarwyddwr Artistig Artes Mundi a Sue Williams, artist sy'n byw yng Nghaerdydd a sydd ar y rhestr fer eleni.

Mae cyfres o sesiynau ar gyfer teuluoedd hefyd wedi'u trefnu, sy'n edrych ar thema'r arddangosfa.

Mae Artes Mundi yn dathlu diwylliant gweledol o bedwar ban byd. Mae'r wyth artist ar y rhestr fer yn ymwneud â'r thema greiddiol o'r ffurf neu'r cyflwr dynol. Mae'r arddangosfa'n cynnwys peintiadau, cerfluniau a lluniau difyr, delweddau ffotograffig pryfoclyd a ffilmiau llawn dychymyg sy'n edrych ar y gymdeithas, yn dweud rhywbeth amdani ac yn mynegi barn ar y byd a diwylliannau go iawn a dychmygol. Cafodd yr wyth eu dewis gan ddau guradur rhyngwladol, Deepak Ananth, Hanesydd Celf Indiaidd a Churadur celf fodern a chyfoes sy'n gweithio ym Mharis; ac Ivo Mesquita, curadur, beirniad ac awdur celf o Frasil – un o ffigyrau blaenllaw byd celfyddydau gweledol America Ladin.

Bydd Gwobr Artes Mundi 2 yn cael ei rhoi i un o'r artistiaid ar y rhestr fer, ddydd Gwener 31 Mawrth 2006. Enillydd y wobr yn 2004 oedd yr artist Tseiniaidd, Xu Bing. Mae'r arddangosfa i'w gweld yng Nghaerdydd tan 7 Mai 2006.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Julie Richards, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu (Arrtes Mundi), Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 07876 476 695; julie.richards@amgueddfacymru.ac.uk
  2. Mae'r sgyrsiau amser cinio yn cychwyn am 1.05 pm. Mae llefydd yn brin felly bwciwch wrth y Dderbynfa wrth gyrraedd.

Yr artistiaid sydd ar y rhestr fer:

Eija-Liisa Ahtila - cafodd ei geni yn Helsinki, y Ffindir, ac mae'n dal i weithio yno. Mae Ahtila yn disgrifio ei gwaith fel 'dramâu dynol' y mae'n eu cymryd o'r pethau y mae'n ei gweld ac yn eu profi, trwy gyfrwng ffilm a fideo.

Thomas Demand – cafodd ei eni ym Munich ac mae'n byw ac yn gweithio yn Berlin. Mae gwaith Demand yn cyfuno cysyniadaeth a ffotograffiaeth, gan ddefnyddio proses o adeiladu, dehongli ac ailadrodd. Mae'n ail-greu modelau maint llawn o adeiladau neu ystafelloedd, gan dynnu ffotograffau ohonynt cyn eu dymchwel.

Maur?cio Dias a Walter Riedweg – mae'r artist o Frasil, Maur?cio Dias a'r artist o'r Swistir, Walter Riedweg wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers 1993. Mae eu gwaith ymchwil a'u projectau ar y cyd, a gyflwynir amlaf ar ffurf gosodweithiau fideo, yn edrych ar fywydau grwpiau o bobl sy'n byw ar gyrion diwylliannau'r brif ffrwd fel mewnfudwyr a phuteiniaid, neu yn llythrennol ar y cyrion, fel heddlu'r ffiniau.

Leandro Erlich – cafodd ei eni yn Buenos Aires, yr Ariannin, ac mae'n dal i weithio yno. Mae ei gerfluniau a'i osodweithiau mawr yn creu byd o dwyll a lledrith; drysau na ellir mo'u hagor, tyllau sbïo sy'n datgelu'r annisgwyl a drychau sydd ddim yn adlewyrchu. Mae Erlich yn herio syniad pob dydd y gynulleidfa am realiti trwy greu profiad annisgwyl o awyrgylch cyfarwydd. Arddangosodd ei waith yn 51fed Biennale Fenis yn ddiweddar.

Subodh Gupta – fe'i ganed yn Khagaul, India ac mae'n byw ac yn gweithio yn New Delhi. Mae Subodh Gupta'n gweithio mewn amrywiaeth eang o gyfryngau o gerfluniau a pheintiadau i osodweithiau, ffotograffiaeth, fideo a pherfformiadau. Mae'n codi statws pethau pob dydd mae'n ei ffeindio o India wledig ac yn eu troi nhw'n weithiau celf – tail gwartheg, bwcedi llaeth, offer cegin, sgwteri, drylliau a phowdr gulal. Arddangosodd ei waith yn 51fed Biennale Fenis yn ddiweddar.

Sue Williams – cafodd ei geni yng Nghernyw ac mae'n byw ac yn gweithio yng Nghymru erbyn hyn. Mae ei gwaith yn ymgorffori ei hymateb angerddol at y cyflwr dynol; wrth synfyfyrio at ffantasïau ffeministiaeth, rhywioldeb a rhyw, a'r syniad o chwant - rhywiol a meddyliol.

Wu Chi-Tsung – cafodd ei eni yn Taipei, Taiwan lle mae'n dal i weithio a byw. Enillodd Wu Wobr Celfyddydau Taipei yn 2003, ac mae ei waith diweddar yn edrych ar y syniad o “ddelwedd” trwy wahanol gyfryngau fel fideo, ffotograffiaeth a gosodweithiau mecanyddol.

Dyma aelodau panel beirniaid Gwobr Artes Mundi 2:

Paolo Colombo, Curadur MAXXI Museo Nazionale delle Arti del XXI Secolo, Rhufain, yr Eidal.

Thelma Golden, Cyfarwyddwr a Phrif Guradur, The Studio Museum yn Harlem, Efrog Newydd, UDA.

Cai Guo-Qiang, artist sy'n byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd, UDA.

Gerardo Mosquera, curadur a beirniad celf annibynnol, yn gweithio yn Havana, Ciwba.

Jenni Spencer-Davies, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.