Datganiadau i'r Wasg

Hwyl gwyddonol dros hanner tymor

Archwilio gwely'r môr a gwaith gwyddonol sydd wedi cael ei wneud ym Môr Hafren fydd thema fawr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn ystod y gwyliau. Dewch i gymryd rhan yn y sioe bywyd gwyllt morol sy'n digwydd bob dydd yn ystod y gwyliau. Neu beth am rhoi cynnig ar fod yn wyddonydd morol a darganfyddwch y creaduriaid gwych a gwyllt syn byw ar wely Môr Hafren. Cymrwch gip ar y lluniau sonar diweddaraf i weld tonnau anferth o dywod a hyd yn oed llongddrylliadau! Hyn ar 19 Chwefror, 2.30pm.

Mae'r holl weithgareddau yma'n cael ei rhoi at ei gilydd i gyd-fynd â'r CD-ROM ‘Archwilio Gwely'r Môr' sydd wedi'i gynhyrchu ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru ac Arolwg Daearegol Prydain. Seiliwyd y wybodaeth ar ddata biolegol a daearegol a gasglwyd trwy arolygon o wely Môr Hafren.

Fe fydd achlysur arbennig hefyd yn digwydd ar 27 Chwefror, 09.00am i lawnsio'r CD-ROM yn ysgol Gynradd Penclawdd yng nghwmni Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Jane Davidson.

Gydag addysg yn rhan mor bwysig i ddyfodol a datblygiad Amgueddfa Cymru, mae'r CD-ROM arbennig hwn yn annog disgyblion ac athrawon i fod yn wyddonwyr morol rhithwir. Mae'r amgylcheddau rhithwir yn llawn gwybodaeth am gynefinoedd, cadwyni bwyd, ymchwil gwyddonol a llawer iawn mwy. Mae staff yr Amgueddfa wedi gweithio gyda thros 100 o ysgolion ar y project. Bellach, mae pob ysgol gynradd ac uwchradd wedi derbyn copi o'r CD-ROM ac wrthi'n dangos ymarfer da yn y maes hwn o fewn y dosbarth.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 01792 638 970