Datganiadau i'r Wasg

Llechi Llenyddol gyda "MEIFOD"

13 – 17 Chwefror 2006

Trawsnewidwyd seiniau a hanes gweithdai diwydiannol Fictorianaidd i farddoniaeth wythnos yma fel rhan o brosiect arbennig a chynhaliwyd yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis.

Mewn cyfres o weithdai llenyddol, bu’r asiantaeth farddoniaeth MEIFOD, sy’n cynnwys beirdd fel Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd, Meirion McIntyre Huws, Geraint Lovgreen a Gwen Lasarus, yn cyd weithio gyda criwiau o blant ysgol i greu barddoniaeth wedi’i ysgogi gan safle a hanes yr Amgueddfa, gweithdai diwydiannol Chwarel Dinorwig gynt.

“Rydym eisioes wedi profi’r gwerth o gamu allan o awyrgylch ffurfiol y dosbarth i leoliadau arbennig i chwilio am ysbrydoliaeth a deynydd i ysgogi dosbarthiadau”, dywedodd Iwan Llwyd. “Mae gan rhai lleoliadau gyfoeth o hanes, cysylltiadau a deunydd y gellir ei ddefnyddio i brocio’r dychymyg. Mae lleoliadau fel yr Amgueddfa yn cynnig profiadau byw ac uniongyrchol ac mae hynny’n gwneud y gweithdai yn fwy effeithiol a chreadigol.”

I Celia Parri, Swyddog Addysg yr Amgueddfa mae’r gweithdai barddoniaeth yn rhoi cyfle i blant weld ymhellach i fewn i fywyd y Chwarel, yn ogystal a phrofiad unigryw i fynd adref:

“Mae ysgrifennu barddoniaeth yn un ffordd arbennig iawn o werthfawrogi teimlad ac awyrgylch yr Amgueddfa; mae’r plant yn gweithio fel rhan o dim i greu y barddoniaeth ac erbyn diwedd y dydd ganddynt gampwaith gwreiddiol ac unigryw i fynd adref gyda nhw.”

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am wybodaeth ymhellach cysylltwch â:
Julie Williams ar: 01286 873707 neu julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk