Datganiadau i'r Wasg

Sioe Trenau bach i ddatgelu lliwiau cywir UNA!

Mawr, bach,go wir neu cogio...mae rhywbeth i bawb yn sioe trenau bach blynyddol Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, rhwng Chwefror 23 a 26 2006. Mae'r digwyddiad, sydd bellach yn denu miloedd o bob gwr o Brydain, yn gyfle arbennig i bobl o bob oed fwynhau hud a lledrith trenau obob math.

Fel arfer, bydd yna nifer o nwyddau ar werth ynghyd a chyfle i deithio ar drenau bach ager a gweld arddangosiadau byw o injeni stêm rheilffordd gul gan glybiau o Ogledd Cymru gyfan, yn cynnwys Wrecsam, Bae Colwyn a De Caernarfon. Hefyd, bydd arddangosiadau o egwyddorion perianyddol yr injan stem gan ceidwad yr Amgueddfa, Dr Dafydd Roberts:

“Mae'r Sioe Trenau Bach wedi tyfu i fod yn rhan boblogaidd o'm rhaglen atyniadol ac yn cyfrannu at y cynnydd mewn ymwelwyr rydym wedi croesawu i'r Amgueddfa yn y blynyddoedd diweddar. Mae gan yr Amgueddfa ddiddordeb arbennig mewn etifeddiaeth rheilffyrdd. Wedi'r cwbl, roedd rheilffyrdd graddfa gul yn hanfod o weithgareddau chwareli llechi ac ymhlith ein casgliad mae yna injan fach stêm o'r enw UNA a fydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn ddiweddarach y flwyddyn hon.”

Un o'r uchafbwyntiau eleni bydd ymddangosiad seren yr Amgueddfa – sef UNA yr injan Hunslet – yn ei lifrai ( lliwiau) newydd. Yn ddiweddar bu am atgyweiriad ac ail-baentiad yng ngweithdai gorsaf Rheilffordd Llyn Padarn gerllaw i'w thrawsnewid o'r lliw gwyrdd tywyll yr oedd hi i tywyll goch yr oedd curadurion yr Amgueddfa Lechi – gyda chymorth Curaduron Amgueddfa genedlaethol y Rheilffordd yn Efrog – yn credu i fod yn gywir. Esboniodd Cadi Iolen, Curadur Amgueddfa Lechi Llanberis ymhellach: -

“Dros y blynyddoedd, mae UNA wedi ymddangos mewn sawl gwahanol lifrai,ond mi fydd y rhai oedd yn gweithio yn Chwarel Pen Yr Orsedd yn Nyffryn Nantlle yn ei chofio hi wedi ei phaentio yn dywyll ddu. Serch hynny, erbyn hyn rydym yn ymwybodol iddi gael ei throsglywddo i'r Chwarel honno yn 1905 wedi ei phaentio yn beth sydd yn cael ei adnabod yn ‘Midland Railway Red', sef tywyll - goch cyfoethog ac yn dilyn dathliadau canmlwyddiant UNA y llynedd, cymerwyd y penderfyniad i'w dychwelyd yn nol i'w lliwiau gwreiddiol.”

Atyniad arall yn y sioe bydd lansiad swyddogol cyfieithiad arall i'r Gymraeg o lyfrau plant Alan Cliff sef Jac a'r Cathod Bach Coll . Dyma'r ail yn y gyfres i'w chyfieuthu ac mae'r gyfres ynmynd onerth inerth. Bydd yr awudur yn yr Amgueddfa 0 11am ar Chwefror 25 i arwyddo ei lyfrau. Cyhoeddir y llyfrau gan Wasg Helygain yn Rhyl, ac mae hanner yr arian a wneir drwy werthiant y llyfrau yn cael ei roi i Ysbytai T? Gobaith, elusen sydd yn gofalu am blant yn dioddef o salwch difrifol ac yn rhoi cymorth i'w teuluoedd.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Julie Williams, Amgueddfa Lechi Cymru, ar 01286 873707.

Nodiadau i olygyddion

Mi fydd Rheilffordd Llyn Padarn yn rhedeg trenau trwy gydol wythnos hanner tymor Chwefror 19 – 26 (cost ychwanegol)