Datganiadau i'r Wasg

Dewch am dro i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Ddydd Gwener (24 Chwefror), mae hi'n Ddiwrnod Gweithio eich Oriau Go Iawn, felly beth am gymryd awr ginio go iawn a'i threulio yn crwydro un o deulu hynod Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru?

Gall treulio awr mewn amgueddfa yn ystod amser cinio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch diwrnod. A lle gwell i ddod na'r amgueddfa hynod sy'n olrhain hanes diwydiant llechi, yng nghanol mynyddoedd Eryri? Dewch i weld sut le oedd yng Nghaban y Chwarelwyr, a tharo golwg ar yr olwyn dd?r fwyaf sy'n gweithio yng ngwledydd Prydain. Mae'r wythnos hon yn un arbennig iawn yn Llanberis, gan fod ein Sioe Trenau Bach hynod yn digwydd tan ddydd Gwener.

Ac os yw hyn i gyd yn codi chwant am baned neu damaid i fwyta, galwch i mewn i Gaffi'r Ffowntan, sydd ar ganol y safle. Ac wrth gwrs, mae mynediad am ddim i bawb, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, felly does dim esgus dros beidio â chymryd hoe o'ch diwrnod i ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru.

Cofiwch hefyd am ein siop arbennig, sy'n gwerthu anrhegion o bob math – o lyfrau i emwaith, a llond lle o drugareddau wedi'u cynhyrchu o lechen.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.