Datganiadau i'r Wasg

Dewch i dreulio awr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ddydd Gwener (24 Chwefror), mae hi'n Ddiwrnod Gweithio eich Oriau Go Iawn, felly beth am gymryd awr ginio go iawn a'i threulio yn crwydro Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru?

Gall treulio awr mewn amgueddfa yn ystod amser cinio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch diwrnod, a does unman yn debyg i dawelwch hudolus safle can acer Sain Ffagan, un o deulu Amgueddfa Cymru, sydd bum munud yn unig o ganolfan siopa brysur Croes Cwrlwys.

Mae Sain Ffagan yn gartref i dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol o bob rhan o Gymru sy'n dangos sut oedd pobl yn byw mewn gwahanol gyfnodau mewn hanes. O dyddyn chwarelwr o Rosgadfan i res o dai teras o Ryd-y-Car ger Merthyr Tudful, mae'r cyfan oll i'w gweld yn yr amgueddfa awyr agored arbennig hon. A chofiwch, mae mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae llond lle o gorneli bach tawel yn Sain Ffagan – mae'r gerddi o gwmpas y castell yn hafan o harddwch trwy gydol y flwyddyn. Ac os yw'r holl gerdded yn codi chwant am baned neu damaid i'w fwyta, beth am alw mewn i'n bwyty yn y prif adeilad neu i Siop Goffi Gwalia?

Mae llawer o newidiadau ar y gweill yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yr amgueddfa'n cael ei datblygu ymhellach i adrodd hanes pobl Cymru drwy'r oesoedd – o'r dechrau hyd heddiw. Ymysg y datblygiadau cyffrous ar droed ar hyn o bryd, mae ail-greu Oriel Un, a fydd yn ail-agor yn ystod gwanwyn 2007. Mae siop goffi newydd hefyd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar flaen y prif adeilad.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion am y datganiad hwn, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru – 029 2057 3175.