Datganiadau i'r Wasg

Gwnewch amser i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd hynod ar hyd a lled Cymru – mae pob un yn lle perffaith i dreulio awr ginio lawn ddydd Gwener (24 Chwefror), sef Diwrnod Gweithio'ch Oriau Go Iawn, felly beth am gymryd awr ginio go iawn a’i threulio yn crwydro un o’n teulu hynod o amgueddfeydd?

Gall treulio awr mewn amgueddfa yn ystod amser cinio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch diwrnod. Dewch draw i weld eich hoff lun – neu i ddarganfod hoff lun newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gwnewch amser i ymweld â’n amgueddfa ddiweddaraf yn Abertawe; neu beth am alw mewn i weld sut mae’r gwaith ar Eglwys Sant Teilo yn dod yn ei flaen yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Gyda mynediad am ddim i bob un o’n hamgueddfeydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, does dim esgus dros beidio â gwneud amser i ymweld â’r casgliadau cenedlaethol.

Os ydych chi’n chwilio am damaid i’w fwyta mewn awyrgylch arbennig, dewch draw i un o’r amgueddfeydd cenedlaethol – bwyd blasus mewn awyrgylch heb ei ail. A chofiwch hefyd am ein siopau ym mhob un o’n hamgueddfeydd – yr union le i chwilio am anrheg gwahanol i rywun arbennig.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion, cysylltwch Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru - 029 2057 3185.