Datganiadau i'r Wasg

Robin Gwyndaf yn ymddeol o Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ym 1964, dechreuodd hanesydd ifanc ar ei waith yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Erbyn hyn, Dr Robin Gwyndaf yw un o'r enwau sy'n dod i'r meddwl ar unwaith wrth sôn am yr Amgueddfa a'r gwaith ymchwil arbennig ym maes llên gwerin a hanes llafar. Eleni, bydd Dr Gwyndaf, Curadur Bywyd Gwerin yr Amgueddfa, yn ymddeol o Sain Ffagan. Yn ddi-os, bydd yn gadael gwaith ymchwil a chasgliad sydd heb ei ail yma yng Nghymru – os nad yn y byd i gyd.

Er pan oedd yn ifanc, bu Dr Gwyndaf yn ymwneud ag adrodd straeon, canu, a barddoniaeth ei fro enedigol yn Llangwm yn yr hen Sir Ddinbych, ardal oedd yn enwog am ei thraddodiad cerddorol a barddonol cyfoethog a thoreithiog. Wedi'i swyno gan y Gymraeg – ei thafodieithoedd, chwedlau a thraddodiadau llafar, mae Dr Gwyndaf wedi gweithio'n ddi-flino, gan gwblhau gwaith maes ar hyd a lled Cymru, drwy gydol ei oes. Mae'r casgliad arbennig yn yr amgueddfa'n gartref i filoedd o bytiau o llên gwerin ein cenedl – o rigymau a hwiangerddi i benillion, emynau lleol, a chwedlau am fyd natur.

Yn ystod ei yrfa, mae Dr Gwyndaf wedi cyfweld â thua 3,000 o bobl yng Nghymru, gyda thros 450 o'r rheini wedi'u recordio ar dâp. Ceir dros 700 awr o atgofion a hanesion yn yr Archif yn Sain Ffagan, gyda'r rhan fwyaf yn ymwneud â straeon gwerin, traddodiadau a chredoau. Dr Gwyndaf yw awdurdod pennaf Cymru yn y meysydd hyn.

Mae'n fardd ac awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau ar ddiwylliant gwerin Cymru, ac mae'i ddwsin o lyfrau yn cynnwys Chwedlau Gwerin Cymru (1989) a Teulu, Bro a Thelyn (1997). Mae hefyd wedi cyhoeddi barddoniaeth, traethodau ac wedi teithio'n eang gyda'i waith ac fel cynrychiolydd ar ran UNESCO.

Meddai John Williams–Davies, Cyfarwyddwr Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ac un sydd wedi gweithio gyda Dr Gwyndaf ers y 70au: “Bu Robin Gwyndaf yn awdurdod ar lên gwerin Cymreig am flynyddoedd lawer, nid yn unig yng Nghymru ond drwy'r byd i gyd. Bu ei ymroddiad i'r Amgueddfa ac i'r gwaith o recordio ein traddodiadau yn aruthrol. Mae'r archif a greodd yn adnodd amhrisiadwy i genedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn un o saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.