Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn lansio apêl am atgofion

Ganrif a mwy yn ôl, gydag arian yn brin yn ardaloedd chwarelyddol y gogledd, mudodd nifer o deuluoedd draw i America i chwilio am fywyd gwell yn ardal Granville yn nhalaith Efrog Newydd. Oedd aelodau o’ch teulu chi ymysg y rheini a adawodd Cymru? Os felly, mae Amgueddfa Cymru am glywed gennych chi.

Eleni, byddwn yn gefeillio gyda Slate Valley Museum yn Granville, amgueddfa sydd eisoes yn gweithio’n agos gydag Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Byddwn yn trefnu gweithgareddau yma yng Nghymru a draw yn yr Unol Daleithiau.

I ddathlu’r gefeillio hwn, rydym ni a Slate Valley Museum yn lansio apêl i ddysgu mwy am y rhai adawodd Gymru i chwilio am well bywyd ar draws y môr.

Ein bwriad yma yng Nghymru yw hel atgofion y teuluoedd a arhosodd adref, a gweld os ydyn nhw’n dal i fod mewn cysylltiad efo disgynyddion y rhai a adawodd y wlad. Bydd Slate Valley Museum yn cynnal apê debyg, a phwy a ?yr – efallai y byddwn yn gallu uno teuluoedd sydd heb fod mewn cysylltiad am genedlaethau lawer.

Meddai Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru, ac un sydd wedi chwarae rhan amlwg yn y gwaith gyda Slate Valley Museum:

“Mae gennym berthynas arbennig o dda gyda’r amgueddfa lechi yn ardal Efrog Newydd eisoes, ac felly roedd yn gwneud synnwyr i ni edrych ar ffurfioli’r berthynas ymhellach.

“Er mai gweithgareddau codi proffil a rhoi sylw i’r ddau sefydliad sydd gennym ar y gweill ar hyn o bryd, byddwn yn edrych ar rannau mwy creiddiol o’n gwaith dros y misoedd nesaf, gan barhau i rannu arfer da, ac edrych os oes ffordd o gynnig cyfle i staff fynd draw i Slate Valley Museum am gyfnod i weld sut maen nhw’n gweithio draw yno.”

Ychwanegodd Mary Lou Willits, Cyfarwyddwr Slate Valley Museum:

“Rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu’r berthynas sydd gennym eisoes gydag Amgueddfa Cymru. Mae’r cyfle i rannu arfer da ac i gyd-drafod datblygiadau gydag amgueddfa fel Amgueddfa Lechi Cymru, sydd mor debyg i ni o ran pwnc, yn eithriadol werthfawr. Byddwn ninnau yn mynd ati yma yn Granville i dynnu sylw at yr apêl ac i godi proffil ein perthynas gyda’n cyfeillion yng Nghymru.”

Os oes gennych chi atgofion am aelodau’r teulu a adawodd Cymru i fyw yn America, neu os hoffech fod yn rhan o’r gweithgareddau a drefnir gan Amgueddfa Cymru, cysylltwch â Cadi Iolen, Curadur, Amgueddfa Lechi Cymru ar (01286) 873714 – e-bost – cadi.iolen@amgueddfa.cymru.ac.uk. b

Mae’r ymgyrch hon yn rhan o weithgaredd rhyngwladol Amgueddfa Cymru, sydd yn canolbwyntio ar Ogledd America ar hyn o bryd. Y llynedd, lawnsiwyd cyfrol arbennig ar y casgliad cenedlaethol o gelf Argraffiadol ac ôl-argraffiadol, Goleuni a Lliw, yn Efrog Newydd, a bydd y casgliad hwn yn teithio o amgylch Gogledd America yn 2008/09.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gulbenkian eleni.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth am y datganiad hwn, cysylltwch â:

Julie Williams, Swyddog Hyrwyddo, Amgueddfa Lechi Cymru, (01286) 873707; julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk

Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru, 07974 205 849; Gwenllïan.carr@amgueddfacymru.ac.uk