Datganiadau i'r Wasg

Gweld Sêr ar y Glannau

Anghofiwch yr Oscars – dewch i weld y sêr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!

Yn ogystal â gwylio’r sêr gyda Chymdeithas Seryddiaeth Abertawe, rydyn ni’n chwilio am seren y dyfodol ym myd gwyddoniaeth wrth i FameLab ddod i’r Glannau.

Dyna flas o’r llu o weithgareddau RHAD AC AM DDIM llawn hwyl sy’n digwydd yn yr amgueddfa yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth.

Ymunwch yn y drafodaeth am Ffermydd Gwynt a fydd yn dechrau’r cyfan ddydd Sul, 12 Mawrth am 2.30pm.

O blaid neu yn erbyn? Bydd panel o arbenigwyr yn cyflwyno’u dadleuon ac yn gadael i’r gynulleidfa benderfynu.

Ddydd Sul, 19 Mawrth, 10am–5pm, dyma Einstein yn cwrdd â’r X-factor wrth i wyddonwyr brwd gystadlu am le yn rownd derfynol FameLab. Byddwch ymhlith y cyntaf i weld cyflwynwyr gwyddoniaeth y dyfodol, neu beth am gymryd rhan? Ewch i www.famelab.org i gael rhagor o wybodaeth.

Am 2.30pm cewch ddysgu rhagor am fôr-grwbanod lledrgefn yng Nghymru gyda’r arbenigydd Dr Jonathan Houghton. Wedyn byddwn ni’n edrych tua’r awyr am 7pm a dysgu sut roedd pobl yn arfer ffeindio’u ffordd ar y môr ’slawer dydd gan ddefnyddio’r sêr gyda’r arbenigydd Brian Spinks. Cewch gyfle hefyd i ddysgu sut i ddefnyddio telesgop i edrych ar y sêr o falconi’r amgueddfa.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru — Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cysylltwch â

Fay Harris
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
E-bost Fay Harris
(01792) 638970