Datganiadau i'r Wasg

Cefnogwch gais Abertawe fel amgueddfa orau prydain medd Amgueddfa Lechi Cymru

Heddiw (3 Ebrill 2006), mae Dr Dafydd Roberts, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, wedi galw ar i bobl Gogledd Cymru gefnogi cais Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yng Ngwobr Gulbenkian 2006 am Amgueddfa Orau Prydain. Meddai:

"Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yma yng Nghymru ers cyfnod y chwyldro diwydiannol. Rydym yn gefnogol iawn o gais yr amgueddfa ac yn annog pobl i ymweld â gwefan Amgueddfa Cymru i gefnogi'r cais.

"Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau eisoes wedi cyrraedd y deg uchaf yn y gystadleuaeth, a chyda dim ond wythnos sydd i fynd cyn i restr derfynol y wobr gael ei gyhoeddi, rydym am i gynifer o bobl â phosib ddatgan eu cefnogaeth i'r amgueddfa."

Bydd rhestr derfynol Gwobr Gulbenkian yn cael ei ryddhau ar 12 Ebrill, a rhoddir y wobr i Amgueddfa Orau 2006 mewn seremoni arbennig yn Llundain fis Mai eleni.

Daw Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ill dwy o dan adain Amgueddfa Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru. Yr amgueddfeydd eraill yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon – enillydd Gwobr Gulbenkian yn 2005, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion.

Ceir mynediad am ddim i bod un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth ar gais Abertawe yng nghystadleuaeth Gulbenkian eleni, .

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Julie Williams, Swyddog Hyrwyddo, Amgueddfa Lechi Cymru, 01286 870 630.