Datganiadau i'r Wasg
DEWCH â gwobr gulbenkian i Abertawe medd amgueddfa wlân cymru
Dyddiad:
2006-04-05Amgueddfa Wlân Cymru yw’r ddiweddaraf o deulu Amgueddfa Cymru i annog ymwelwyr a chyfeillion yr amgueddfa i gefnogi cais Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yng Ngwobr Gulbenkian eleni. Mae’r amgueddfa, a leolir ym mhentref Dre-fach Felindre yn un o dair amgueddfa sy’n adrodd hanes diwydiannau penodol, gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn adrodd hanes cyffredinol diwydiant yng Nghymru ers y Chwyldro Diwydiannol.
Meddai Curadur yr Amgueddfa, Sally Moss:
“Rydym yn falch iawn bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau eisoes wedi llwyddo i gyrraedd deg uchaf y gystadleuaeth arbennig hon. Mae’n adlewyrchu’n arbennig o dda, nid yn unig ar yr amgueddfa honno, ond ar amgueddfeydd diwydiannol eraill Amgueddfa Cymru.
“Rydym yn cefnogi cais yr Amgueddfa yn y Gulbenkian, ac yn annog unrhyw un sydd wedi mwynhau profiad Amgueddfa Wlân Cymru i ddatgan eu cefnogaeth hwythau i Abertawe dros y dyddiau nesaf.”
Bydd rhestr derfynol Gwobr Gulbenkian yn cael ei ryddhau ar 12 Ebrill, a rhoddir y wobr i Amgueddfa Orau 2006 mewn seremoni arbennig yn Llundain fis Mai eleni.
Daw Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ill dwy o dan adain Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru. Yr amgueddfeydd eraill yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon – enillydd Gwobr Gulbenkian yn 2005, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion.
Ceir mynediad am ddim i bod un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am ragor o wybodaeth ar gais Abertawe yng nghystadleuaeth Gulbenkian eleni,
Nodiadau i Olygyddion
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru ar 07974 205 849.