Datganiadau i'r Wasg

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi ennill gwobr ddylunio flaenllaw

Roedd yr atyniad £33.5 miliwn ymhlith 22 o adeiladau ledled y DU i ennill Gwobrau'r Ymddiriedolaeth Ddinesig. Cyflwynwyd 316 o adeiladau ar gyfer y wobr sy'n cydnabod pensaernïaeth dda a'r ffordd mae'r cyhoedd yn defnyddio'r adeilad. Mae'r Amgueddfa wedi denu dros 85,000 o ymwelwyr ers iddi agor fis Hydref diwethaf, ac enillodd y wobr am wneud cyfraniad arbennig at ansawdd a gwedd yr amgylchedd.

Wilkinson Eyre ddyluniodd yr Amgueddfa, sy'n un o deulu Amgueddfa Cymru, ac mae hi wedi cael ei henwebu am Wobr £100,000 Gulbenkian am Amgueddfa Orau'r Flwyddyn hefyd.

Cafodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau grant gwerth £11 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri – sef y grant mwyaf erioed yng Nghymru. Fel ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe, mae'n ymgorffori stordy rhestredig Gradd II wedi ei gysylltu ag adeilad trawiadol newydd sbon o wydr a llechi. Lleolir yr Amgueddfa yn Ardal Forwrol Abertawe ac mae'n rhan o'r gwaith i adfywio'r ardal. Daeth gweddill yr arian oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, cronfeydd Amcan Un yr UE a rhoddwyr a noddwyr eraill.

Dywedodd Dr Richard Bevins, Rheolwr Project yr Amgueddfa: "Mae'n wych fod beirniaid Gwobrau'r Ymddiriedolaeth Ddinesig wedi cydnabod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y cynllun DU-eang yma. Mae hi'n cadarnhau effaith y cynllun ar adfywiad ardal y Marina ac ansawdd y bensaernïaeth a'r tirlunio."

A dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, y Cynghorydd Chris Holley: "Rydw i wrth fy modd bod yr Amgueddfa'n denu cydnabyddiaeth genedlaethol. Mae'n amgueddfa o safon ryngwladol ac mae'r bensaernïaeth yn rhagorol. Mae hi'n newyddion ardderchog i'r Amgueddfa ac i Abertawe."

Ychwanegodd Jennifer Stewart, Rheolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Un o'n meini prawf allweddol wrth benderfynu sut caiff arian y loteri ei ddosbarthu rhwng projectau treftadaeth yng Nghymru yw pa mor hwylus ydyn nhw i'w defnyddio a sut bydd y cyhoedd yn defnyddio'r adeiladau neu'r projectau. Mae dyluniad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n gweithio'n galed i wneud y lle'n groesawgar i ymwelwyr, ond mae'n adnodd bwysig i'r gymuned leol hefyd. Mae'r chwistrelliad yma o arian y loteri wedi creu amgueddfa o safon i Abertawe gan osod y ddinas yn gadarn ar y map diwylliannol a gweithredu fel catalydd i barhau i adfywio'r ardal gan ddenu twristiaid a swyddi."

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

Fay Harris
Swyddog y Wasg a Marchnata
Fay Harris
(01792) 638970