Datganiadau i'r Wasg

Tŷ llawn yn narlith flynyddol Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Cafodd tymor 2006 Big Pit hwb mawr brynhawn Sadwrn gyda nifer fwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen yn mynychu’r gyngerdd amser cinio a’r Ddarlith Flynyddol.

Cynhaliodd Big Pit, enillydd Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau’r Flwyddyn yn 2005, ei Ddarlith Flynyddol gyntaf yn 2004. Mae’r digwyddiad wedi bod yn boblogaidd dros ben ers y dechrau, ac eleni gwelwyd t? llawn arall.

Eleni, Dr Dulais Rhys oedd yn traddodi’r ddarlith, a’i destun oedd Dr Joseph Parry, y mab i weithiwr haearn o Ferthyr Tudful a ddaeth yn gyfansoddwr toreithiog ac yn un o Gymry enwocaf ei genhedlaeth. Efallai rydyn ni’n ei gofio fwyaf heddiw am ei gân serch Myfanwy. Am y tro cyntaf, cynhaliwyd cyngerdd amser cinio cyn y ddarlith, gyda Band Tref Tredegar, gan ddenu tipyn o ddiddordeb.

Dywedodd Ceidwad a Rheolwr Big Pit, Peter Walker: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y Ddarlith Flynyddol wedi bod yn gymaint o lwyddiant eleni. Cafodd y gynulleidfa ddydd Sadwrn ddiwrnod i’r brenin llawn cerddoriaeth, ac rydyn ni’n falch dros ben bod yr achlysur yma’n parhau i fynd o nerth i nerth.

“Mae ychwanegu cyngerdd amser cinio’n enghraifft ymarferol o’r cysylltiadau rhwng diwydiant a cherddoriaeth ar draws maes glo’r de. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu rhai o fandiau a chorau meibion mwyaf blaenllaw’r de mewn cyfres o gyngherddau prynhawn Sul dros y gwanwyn.

“Yn ogystal, bydd Dr Dulais Rhys yn ailadrodd y ddarlith ar ein stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yn ystod wythnos gyntaf Awst, felly caiff y bobl gollodd allan y tro yma gyfle i’w glywed yn siarad bryd hynny,” ychwanegodd.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd cenedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddarlith Flynyddol a’r gweithgareddau cysylltiedig, cysylltwch â: Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Big Pit. Ffôn: 01495 790311, 07970 017210
E-bost Kathryn Stowers

•Mae Big Pit ar agor bob dydd rhwng 9.30 am-5 pm. Mae’r teithiau danddaear yn rhedeg yn gyson 10 am-3.30 pm. Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd danddaear.