Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Ysgol Maestir gyda CD Rom addysg newydd

Un o hoff adeiladau ymwelwyr Sain Ffagan yw Ysgol Maestir o Lambed, Ceredigion. Mae'r ysgol wledig fechan hon, sydd wedi cael ei hadfer yn hyfryd, yn nodweddiadol o ddiwedd oes Victoria pan ddaeth addysg elfennol yn hanfodol i bob plentyn yng Nghymru a Lloegr.

Bob blwyddyn daw dros 17,000 o blant i Faestir o bob cwr o'r wlad i ddysgu am yr ysgol a'r newidiadau mawr a welodd byd addysg a phlant yng Nghymru. Mae CD Rom newydd sbon Maestir yn rhoi cip difyr i ni ar fywyd yr ysgol o safbwynt y disgyblion, yr athrawon a'r gymuned. Mae'r offeryn arloesol newydd yma'n cynnig rhith ymweliad i Faestir ac ymarferion i greu gwers o oes Victoria. Bydd y CD Rom ar gael i bawb o 4 Mai ymlaen (pris £14.99, ar gael o siop yr Amgueddfa neu drwy'r post).

Ond beth sydd mor arbennig am yr ysgol? Fe'i hadeiladwyd ym mhentref bach Maestir, rhyw 2 filltir i'r gorllewin o Lambed. Enw gwreiddiol yr ysgol oedd Ysgol Bwrdd y Santes Fair. Daeth yr enw o eglwys y Santes Fair lle'r oedd yr ysgol wedi bod cyn codi'r adeilad newydd ym 1880. Roedd y rhan fwyaf o'r teuluoedd oedd yn byw ger Maestir yn gweithio dros stad y Falcondale sydd gerllaw, a Syr Charles Harford, sgweier Falcondale adeiladodd yr ysgol ar gyfer plant ei weithwyr yn bennaf.

Ym 1900, roedd tua 36 o ddisgyblion rhwng 5 ac 14 oed yn mynychu'r ysgol, a dim ond un athro. Roedd disgybl-athro (fel arfer y ferch fwyaf galluogi o blith y plant h?n) yn cael y dasg o ddysgu'r babanod. Roedd y rhan fwyaf o'r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, er bod y gwersi trwy gyfrwng y Saesneg. Ond yn groes i'r gred boblogaidd, erbyn 1905, roedd disgyblion Maestir yn cael hanner awr o wersi Cymraeg yr wythnos a'r prif bynciau oedd darllen, ysgrifennu a rhifyddeg.

Ym 1916, caeodd yr ysgol wrth i nifer y disgyblion ostwng, a throdd Cyngor Sir Ceredigion yr adeilad yn gartref trwy rannu'r ystafell ddosbarth yn 3. Ym 1981, cyrhaeddodd tîm adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa Werin i fesur, tynnu lluniau a datgymalu'r adeilad. Gan ddefnyddio'r deunyddiau a'r offer gwreiddiol a hen bopty'r ysgol oedd wedi bod yn dal hen wal sych yn ei le ar fferm leol, cafodd yr ysgol ei hailgodi garreg wrth garreg, ei pheintio'n wyrdd a'i hagor yn yr Amgueddfa ym 1984. Ers hynny, mae miliynau o ymwelwyr wedi ymweld â Maestir, gan gynnwys degau o filoedd o blant ysgol sydd wedi teithio nôl mewn amser i brofi bywyd plant yng nghefn gwlad y gorllewin ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Amgueddfa Cymru yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, sy'n gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu gopi o CD Rom Maestir, cysylltwch ag:
Esyllt Lord, Swyddog y Wasg a PR, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
(029) 2057 3486
E-bost Esyllt Lord