Datganiadau i'r Wasg

Digwyddiadau yn Amgueddfa Lechi Cymru

Mai 2006

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae gwneud ffan lechi neu beth yn union yw patrwm pren? Dewch i Amgueddfa Lechi Cymru yn ystod y mis hwn (mis Mai), i gael gwybod yr ateb. Mis Mai yw mis cenedlaethol Amgueddfeydd — mis arbennig i ddathlu gwaith amgueddfeydd drwy'r wlad ac i ddangos y trysorau sydd ar gael - a bydd yr Amgueddfa yn cynnal llu o weithgareddau!

"Mae llawer o bobl yn meddwl fod amgueddfeydd yn ddiflas ac anniddorol, ond mae amgueddfeydd heddiw yn hollol wahanol," meddai Julie Williams, swyddog marchnata yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. "Mae'n hamgueddfa ni wedi'i lleoli yn yr adeiladau diwydiannol gwreiddiol a oedd yn gwasanaethu Chwarel Dinorwig, ac mae'r rhan fwyaf o'r gwrthrychau y tu allan, lle gellir eu gweld a'u mwynhau. Cynhelir arddangosiadau hollti a thrin llechi bob dydd, ac maen nhw'n boblogaidd iawn gan blant a phobl h?n. Mae ein rhod dd?r, un o'r rhai mwyaf yn Ewrop, yr un mor boblogaidd!"

Cynhelir cyfres o sesiynau 'tu ôl i'r llenni' ar y 9fed, yr 16eg a'r 23ain o Fai, a fydd yn tynnu sylw at rai o'r gweithgareddau na fydd y cyhoedd yn cael cyfle i'w gweld fel rheol.

Ar y 9fed o Fai, bydd Tudur Jones, Swyddog Dogfennaeth, yn siarad am Dai'r Chwarelwyr, sut y'u dodrefnwyd a sut yr ydym yn edrych ar eu hôl heddiw. Ar yr 16eg o Fai, bydd Carwyn Price, un o grefftwyr yr amgueddfa, yn dangos sut i wneud ffan lechi, tra ar y 23ain o Fai, bydd Cadi Iolen, Curadur amgueddfaol, yn dangos rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn llofft patrwm yr amgueddfa ac yn trafod rhai o'r datblygiadau newydd a fu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ar y 13eg o Fai, cynhelir 'diwrnod o atgofion am ymfudo i Efrog Newydd' i ategu apêl yr amgueddfa am wybodaeth ac atgofion mewn perthynas â'r gefeillio â Slate Valley Museum yn Granville, Efrog Newydd. Bydd Dr Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, yn sôn am ei daith i'r Unol Daleithiau yn ddiweddar i gydweithio â'r amgueddfa yno, a bydd cyfle i unrhyw un sydd ag atgofion i'w rhannu neu straeon i'w hadrodd ddweud ei bwt.

"Mae hyn yn gyfle gwych i bobl weld rhywbeth 'ychwanegol' yn yr amgueddfa. Mae'r holl bethau hyn yn digwydd yn rheolaidd, ond bydd yn braf cael eu dangos i'r cyhoedd er mwyn iddynt gael gweld pa fath o waith yr ydym yn ei wneud a pham." meddai Julie.

Bydd y Sgyrsiau yn cychwyn am 2.30pm ac yn para am tuag 20 munud. Cynhelir digwyddiad Efrog Newydd o 2pm hyd 4pm. Mae'r holl ddigwyddiadau am ddim. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd drwy Gymru – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae mynediad i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.