Datganiadau i'r Wasg

Llwyddiant yn Ewrop i Amgueddfa Wlân Cymru

Mae Curadur a Rheolwr Amgueddfa Wlân Cymru, Sally Moss, newydd ddychwelyd o ymweliad hynod lwyddiannus â Lisbon, Portiwgal, lle mynychodd seremoni Gwobr Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn. Mae'r amgueddfa, ym mhentref Dre-fach Felindre yng ngorllewin Cymru, yn adrodd hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru, ac fe'i canmolwyd yn y gystadleuaeth eleni am ei gallu i ymateb i anghenion a dymuniadau ei hymwelwyr, yn y ffordd mae'n darparu ar eu cyfer.

Meddai Mrs Moss ar ôl y seremoni:

"Rydym yn hynod falch ein bod wedi ein canmol mewn cystadleuaeth mor arbennig ar gyfer amgueddfeydd ym mhob rhan o Ewrop. Bu'r holl brofiad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn hynod bositif i bawb yn Amgueddfa Wlân Cymru."

"Cafodd yr amgueddfa eil hail-agor yn 2004 yn dilyn rhaglen ail-ddatblygu, ac felly rwy'n hynod o falch ein bod wedi derbyn canmoliaeth mewn categori sy'n ymwneud â phrofiad yr ymwelydd yn yr amgueddfa.

"Bu'n fwriad gennym i roi tecstilau Cymreig a hanes y diwydiant tecstilau yng Nghymru ar y map, ac o weld yr ymateb a gawsom ym Mhortiwgal, mae'n amlwg ein bod ar ein ffordd i sicrhau hyn. Rydym wedi gwneud cysylltiadau gwych ar hyd a lled Ewrop a rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu perthynas gyda nifer o amgueddfeydd eraill," ychwanegodd.

Gwisgodd Mrs Moss siaced unigryw gan Felin Tregwynt, a gwblhawyd wythnos yn unig ymlaen llaw, yn y seremoni, ac roedd hefyd yn cario siôl nyrsio draddodiadol Gymreig – un o'r nwyddau chwaethus sydd ar gael yn siop yr amgueddfa, a fydd yn cael ei datblygu fel y lle i brynu tecstilau gorau Cymru.

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru – 07974 205 849.