Datganiadau i'r Wasg

Chwilio am Hanes ym Mwrlwm yr Ŵyl

Archaeoleg fydd un o brif themâu stondin Amgueddfa Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun, Sir Ddinbych yr wythnos hon.

Penllanw prosiectau gan rai o ysgolion yr ardal fydd y gweithgareddau ar y stondin drwy gydol yr wythnos, yn edrych ar beth mae'r disgyblion yn ei ystyried fel hanes archeolegol. Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr â'r stondin roi cynnig ar gloddio ar y maes.

Bydd disgyblion Ysgol Llanddulas, Ysgol Cefn Meiriadog, Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, Ysgol Llandrillo ac Ysgol Brynhyfryd yn cael cyfle arbennig i arddangos eu gwaith ar y stondin. Hefyd, fe fydd rhieni, ffrindiau, a staff yr Amgueddfa yn rhan o esblygiad a datblygiad y stondin ei hun, gan ychwanegu at gynnwys yr arddangosfa mewn nifer o ffyrdd drwy gydol yr wythnos.

Pob diwrnod, fe fydd pob ysgol yn eu tro yn cael amser penodedig i weithio gydag artist proffesiynol. Gyda chymorth a phrofiad yr artist, fe fydd y disgyblion yn defnyddio'r gwrthrychau maen nhw'n eu darganfod i greu eu hargraff bersonol o'r hyn sydd yn cael ei alw'n ‘archaeoleg', a chyda staff medrus yr Amgueddfa, fe fyddan nhw hefyd yn profi'r antur o fod yn archeolegwyr go iawn! I glymu'r holl thema at ei gilydd, bydd y Prifardd Iwan Llwyd yn ymuno â'r tîm ddydd Gwener ac yn creu darn o farddoniaeth ysbrydoledig i adlewyrchu'r cyfan.

Bydd gwaith a gweithgareddau Amgueddfa Cymru yn adlewyrchu'r bartneriaeth sydd gan y sefydliad gyda Chyngor Sir Ddinbych, ac mae'r cydweithio yma wedi sicrhau rhaglen llawn a chyffrous ar gyfer pob dydd yn ystod yr wythnos.

Am fanylion pellach yngl?n â rhaglen yr wythnos, beth am alw draw i stondin Amgueddfa Cymru ar faes yr Eisteddfod? Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol Amgueddfa Cymru
029 2057 3185 / 07812 801356
E-bost Siân James