Datganiadau i'r Wasg

Big Pit yn Llongyfarch Enillydd y Gulbenkian Eleni

Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, enillydd Gwobr Gulbenkian yn 2005, wedi anfon llongyfarchiadau gwresog at ss Great Britain ym Mryste, enillydd y wobr arbennig, eleni.

Meddai Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll yn Big Pit:

"Roedd ennill y Gulbenkian yn brofiad arbennig i ni yn Big Pit. Mae'r wobr yn cael ei hadnabod yn y byd amgueddfa fel yr ‘Oscars' ac felly roedd llwyddo yn y gystadleuaeth y llynedd nid yn unig yn wych i ni yn Big Pit, ond hefyd i Amgueddfa Cymru i gyd.

"Fy nghyngor i'r enillwyr eleni yw gwnewch y gorau o'r profiad. Mwynhewch bob eiliad o'r flwyddyn nesaf. Fe fydd hi'n brysurach nac erioed, a defnyddiwch y cyfle i adeiladu ar eich llwyddiant. Y peth pwysicaf i'w wneud yw mwynhau'r flwyddyn, ac os bydd staff yr ss Great Britain yn cael hanner cymaint o hwy ag y cawson ni yn Big Pit, mae'n mynd i fod yn flwyddyn arbennig iawn iddyn nhw!"

Mae cynlluniau eisoes ar droed yn Big Pit i wario'r wobr o £100,000 gan Gulbenkian.

"Rydym yn gweithio ar gynllun i at y gofod sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau cysgu yn yr amgueddfa," eglurodd Peter Walker.

"Rydym eisiau ychwanegu at y gofod sydd gennym ar gyfer arddangosfeydd, ac yn awyddus i greu rhagor o le ar gyfer datblygu'r profiad ar gyfer ymwelwyr. Mae denu cynulleidfaoedd newydd yn rhan fawr o'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yma yn Big Pit, ac rwy'n meddwl y bydd datblygiad fel hyn yn ychwanegiad hynod bwysig i'n gwaith. Fyddai'r project cyffrous yma ddim yn bosibl heb arian gwobr Gulbenkian, ond rydym hefyd yn chwilio am ragor o gefnogaeth ar gyfer y gwaith, felly cysylltwch â ni yn Big Pit os oes gennych chi ddiddordeb," ychwanegodd.

Mae Big Pit yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Kathryn Stowers, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
Ffôn: 01495 790311. Symudol: 07970 017210
E-bost Kathryn Stowers

Mae Big Pit ar agor bob dydd — 9.30am – 5pm. Mae teithiau dan ddaear yn rhedeg yn rheolaidd o 10.00-3.30pm. Mae'n rhaid i blant for o leiaf un medr op daldra i fynd dan ddaear.