Datganiadau i'r Wasg

Cyhoeddi Fel Trysor

Pâr o freichledi a thorch efydd o gyfnod yr Oes Haearn o Drebefered, Bro Morgannwg.

Mr Brian Gibbison a Mr Adrian Pearce ffeindiodd y dorch ac un o’r breichledi wrth chwilio gyda’u datguddwyr metel yn ardal Trebefered ar 23 Gorffennaf 2005.

Darganfuwyd yr ail freichled yn fuan wedyn, pan archwiliodd archeolegwyr a oedd yn gweithio dros Gynllun Henebion Cludadwy Cymru ac Amgueddfa Cymru y fan lle ffeindiwyd y darnau gwreiddiol. Mae’r darnau bach o esgyrn dynol a ffeindiwyd gyda’r arteffactau’n dangos mai nwyddau claddu oedden nhw, oedd wedi cael eu difrodi gan waith ffermio diweddarach o lawer.

Mae addurn enamel ar y dorch, sy’n nodweddiadol o fath o addurn trwm i’r gwddf oedd yn gyffredin yng ngorllewin a gogledd Prydain. Arddull Geltaidd sydd ganddi, ac mae’n perthyn i gyfnod ar ddiwedd yr Oes Haearn pan oedd llwyth y Silwriaid yn ceisio gwrthsefyll cyrch y Fyddin Rufeinig yn y de-ddwyrain. Pâr yw’r breichledi efydd addurnedig ac maen nhw’n dyddio o’r un cyfnod â’r dorch, rhwng OC50-75 yn fwy na thebyg.

Meddai Adam Gwilt, Curadur Casgliadau’r Oes Haearn yn Amgueddfa Cymru: “Mae’r addurniadau yma o fri mawr, ac mae’r ffaith iddynt gael eu canfod mewn bedd yn golygu eu bod yn ddarganfyddiad newydd arwyddocaol dros ben o ran yr Oes Haearn yng Nghymru. Mae’n ein helpu ni i ddeall arddull a hunaniaeth llwyth y Silwriaid, oedd yn byw trwy’r cyfnod yma o wrthdaro diwylliannol”.

Achosion eraill a gyhoeddwyd yw celc yn cynnwys 19 o ddarnau efydd, gan gynnwys darnau o gleddyf, bwyeill socedog, bwyell adeiniog a darnau castio, pen pin gilt arian o’r 16eg ganrif a Tlws arian plaen o’r Oesoedd Canol, tua’r 13eg neu’r 14eg ganrif.

Bydd Amgueddfa Cymru’n ymdrechu i gaffael y darnau hyn ar ôl iddynt gael eu prisio’n annibynnol. Rhagwelir y cânt eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r tudalenni 07.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru – 07974 205 849.