Datganiadau i'r Wasg

Cyfle Am Lun

Mae Corus yn troi nôl at y dyfodol i geisio addysgu miloedd o bobl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Corus a Community, undeb y gweithwyr dur, wedi dewis cefnogi'r atyniad £33 miliwn trwy noddi Ystafell Ddysgu'r Amgueddfa.

Gall pawb fwynhau'r lle dysgu hyblyg yma, o blantos bach i bensiynwyr, ac mae'n addas ar sesiynau dysgu ffurfiol a gweithgareddau anffurfiol llawn hwyl.

Mae'r Amgueddfa, sy'n un o deulu Amgueddfa Cymru, yn adrodd stori diwydiant a blaengaredd y genedl dros y 300 mlynedd diwethaf. Agorodd ei drysau ym mis Hydref y llynedd ac mae hi eisoes wedi denu dros 120,000 o ymwelwyr.

Meddai Rheolwr Dysgu'r Amgueddfa, Rosalyn Gee: "Mae'r Ystafell Ddysgu'n rhan allweddol wrth greu cyfleuster i bobl o bob oedran. Gellir ei defnyddio am unrhyw beth o berfformiadau theatr i adrodd straeon, trafodaethau i weithdai celf a llawer iawn mwy."

I ddathlu'r cyfleuster dysgu a ddatblygwyd gyda chymorth Corus a Community, bydd Jane Davidson, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Llun, 12 Mehefin.

Ac ar y diwrnod caiff plant Ysgol Gynradd Llanmartin yng Nghasnewydd gyfle i sgwrsio â chyn-weithwyr a gweithwyr presennol Corus, y mae rhai ohonynt yn ymddangos ar ffilm yn yr Amgueddfa, i weld sut mae bywyd gwaith wedi newid.

Wrth siarad cyn yr achlysur, meddai Jane Davidson: "Mae'r ystafell ddysgu newydd yn gyfle gwych i ddod â'r amgueddfa yn fyw nid yn unig i blant a phobl ifanc ond hefyd i oedolion. Rwy'n hyderus y bydd yn datblygu yn adnodd adnodd pwysig ar gyfer y gymuned leol a thu hwnt, ac rwy'n annog pawb i ddod draw a chymryd rhan yn y gweithgareddau sydd eisoes wedi'u trefnu."

Dywed Keith Farron, llefarydd Corus bod y cwmni'n falch iawn o fod yn rhan o brosiect addysg mor gyffrous.

"Roedd dociau Abertawe yn rhan hollbwysig o ddatblygiad y gweithfeydd dur un yr ardal, ac o'r fan hyn roedden ni'n allforio i weddill y byd. Bydd yr Ystafell Ddysgu yn gyfle i ymwelwyr weld sut y bu Abertawe yn rhan annatod o'r broses o sicrhau bod olwynion diwydiant Cymru yn parhau i droi," ychwanegodd.

Mae Steve McCool, Ysgrifennydd Rhanbarthol Undeb Cymuned yn credu bod yr Ystafell Ddysgu yn mynd i chwarae rhan allweddol i helpu cenedlaethau'r dyfodol.

"Bydd yr Ystafell Ddysgu yn helpu cenedlaethau heddiw a rhai'r dyfodol i ddeall y rôl oedd gan ddur, glo a diwydiannau eraill i'w chwarae yn creu'r Gymru heddiw, ac yn bendant, bydd gan y diwydiant dur rôl i'w chwarae yng Nghymru'r dyfodol." Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r . Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion:

Adeiladwyd yr Amgueddfa am gost o £33.5m, gyda chyllid gan y dyfarniad mwyaf erioed o Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru (£11.5m), yr UE, Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr hen Fwrdd Croeso ac Awdurdod Datblygu Cymru, Dinas a Sir Abertawe ac Amgueddfa Cymru. Lleolir yr Amgueddfa mewn hen stordy a adeiladwyd ar ochr y doc tua 1902, ac adain newydd sbon a ddyluniwyd gan gwmni Wilkinson Eyre, enillwyr Gwobr Stirliing. Hyd yn hyn, mae'r Amgueddfa wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa Orau'r Flwyddyn, ac wedi ennill gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata, 01792 638970
E-bost Fay Harris