Datganiadau i'r Wasg

Atgofion yn Sail i Efeillio Amgueddfeydd

Ddydd Sul 11 Mehefin, bydd Dr Dafydd Roberts, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis a Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig iawn sy'n ymwneud â hel atgofion o ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru.

Ond yr hyn sy'n arbennig am y digwyddiad hwn yw ei fod yn digwydd filoedd o filltiroedd i ffwrdd o ogledd Cymru yn Granville, Talaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau, yn Amgueddfa Slate Valley, sy'n cael ei gefeillio gydag Amgueddfa Cymru a'r Amgueddfa Lechi yn benodol.

Meddai Dr Roberts wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad:

“Mae gennym berthynas arbennig o dda gyda'r amgueddfa lechi yn ardal Efrog Newydd eisoes, ac felly roedd yn gwneud synnwyr i ni edrych ar ffurfioli'r berthynas ymhellach. Dim ond un rhan o'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros y misoedd diwethaf yw'r digwyddiad ei hun, rydym hefyd wedi bod wrthi yn casglu atgofion y rheini a adawodd Gymru i chwilio am well bywyd ar draws y môr ynghyd â'r teuluoedd a arhosodd adref yn ardal gogledd Cymru.”

Ychwanegodd Michael Houlihan:

“Mae prosiectau fel y gefeillio rhwng Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Slate Valley yn rhan bwysig o'n gwaith ni fel amgueddfa genedlaethol. Drwy gyd-gysylltu ag amgueddfa debyg mewn rhan arall o'r byd rydym yn cael cyfle i rannu a chymharu profiadau, ac i ddod â phobl a'u hatgofion ynghyd mewn awyrgylch amgueddfa. Mae amgueddfeydd yn llefydd i gofio, yn llefydd i ddarganfod ac yn llefydd i ddychmygu, ac mae'r prosiect hwn a'r atgofion sy'n cael eu casglu yn gyfle ardderchog i wneud hyn i gyd.”

Un sydd wedi dilyn y datblygiadau rhwng Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Slate Valley gyda diddordeb yw Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh. Dywedodd:

“Rwy'n falch iawn i weld sefydliadau Cymreig yn creu perthynas gyda sefydliadau eraill mewn rhannau gwahanol o'r byd. Mae hyn yn ein helpu i godi proffil Cymru, ei hanes a'i diwylliant ym mhob rhan o'r byd. Mae cysylltiadau fel hyn hefyd yn gyfle i ddangos y berthynas agos ac arbennig rhwng Cymru a'r rhan yma o'r Unol Daleithiau.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion cysylltwch â Julie Williams, Swyddog Hyrwyddo, Amgueddfa Lechi Cymru ar (01286) 873 707.