Datganiadau i'r Wasg
Dewch i fwynhau gogoniant gerddi Sain Ffagan
Dyddiad:
2006-06-09Pan fo'r tywydd fel hyn, a'r haul yn gwenu, does unman gwell i dreulio'ch amser na Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Gyda'r Ardd Rosod a'r Ardd Eidalaidd ar eu gorau ar hyn o bryd, yr Amgueddfa yw'r lle perffaith i ddianc oddi wrth holl brysurdeb bywyd bob dydd. Ymysg y digwyddiadau sydd wedi'u trefnu y mis hwn mae:
Ymysg y digwyddiadau sydd wedi'u trefnu y mis hwn mae:
- 15 Mehefin – Tocio ac Arwain Gwinwydd: Dulliau traddodiadol o docio ac arwain gwinwydd yn y gwinwydd-dy sydd newydd ei adfer.
- 21 Mehefin – Taith o Amgylch yr Ardd Rosod: Dewch i glywed rhagor am hanes yr Ardd Rosod. Mae hi yn ei holl ogoniant ar hyn o bryd!
- 22 Mehefin – Hanes Tai Gwydr Sain Ffagan: Dewch i glywed rhagor am y project adfer a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Os nad yw'r rhain yn mynd â'ch bryd, wel, dewch draw beth bynnag. Mae ‘na lwyth o bethau difyr i'w gweld yma. Cewch chi ddim o'ch siomi!
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.
Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Am fwy o fanylion cysylltwch â:
Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
(029) 2057 3185 / 07812 801356