Datganiadau i'r Wasg

Lansio Camau Cymraeg yn Amgueddfa Lechi Cymru

Cafodd Camau Cymraeg, pecyn ar gyfer dysgwyr sy'n defnyddio Amgueddfa Lechi Cymru fel adnodd dysgu, ei lansio yn Llanberis yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i glywed awduron y pecyn, Elwyn Hughes ac Ann Jones o Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru, Bangor, yn sôn am ei gynnwys, sef cyngor ar gyfer tiwtoriaid a thaflenni gwaith ar gyfer myfyrwyr. Mae'r pecyn wedi'i ysgrifennu er mwyn adlewyrchu strategaethau dysgu ieithoedd cyfredol.

Mae'r pecyn yn dilyn llwyddiant Llwybrau Llafar, pecyn tebyg a ddatblygwyd ar gyfer Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ddwy flynedd yn ôl. Mae'r ddau becyn yn enghreifftiau o'r gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan Amgueddfa Cymru yn y sector addysg ôl-16. Hefyd yn mynychu'r digwyddiad oedd Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Pennaeth Dysgu Amgueddfa Cymru, Ceri Black, Ann Jenkins, Pennaeth Addysg Dwyieithog, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Gweithdrefnau Amgueddfa Cymru, John Williams-Davies.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol ym mhob cwr o Gymru – Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.