Datganiadau i'r Wasg

Adolygiad Ardderchog i Amgueddfa Cymru

Mae'r argraffiad diweddaraf o The Rough Guide to Britain a The Rough Guide to Wales wedi rhoi canmoliaeth brwd i Amgueddfa Cymru.

Mae'r llyfrau teithio, a ddefnyddir gan filiynau o bobl bob blwyddyn, wedi rhoi rhestr o'r pethau gorau i'w gwneud ym Mhrydain a Chymru, ac mae'r amgueddfeydd cenedlaethol wedi gwneud yn arbennig o dda.

Mae'r teulu o amgueddfeydd ar y rhestr Prydeinig. Dim ond pedwar peth yng Nghymru sy'n cael eu cynnwys ar y rhestr hwn, a ni yw'r unig amgueddfeydd ym Mhrydain ar wahân i'r Amgueddfa Brydeinig i gael ein cynnwys ar y rhestr o dri-deg-pump o bethau.

Cymoedd y De sydd ar ben y rhestr Cymreig o dri-deg, ond mae ein hamgueddfa fwyaf newydd – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau — yn bedwerydd ar y rhestr. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru hefyd yn cyrraedd yr ugain uchaf yng Nghymru.

Meddai Pennaeth Marchnata Amgueddfa Cymru, Siân Thomas:

“Mae miliynau o bobl yn defnyddio'r Rough Guides bob blwyddyn, ac felly mae cael adolygiad da yn yr argraffiad diweddaraf o'r ddwy gyfrol yn newyddion ardderchog i Amgueddfa Cymru.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.