Datganiadau i'r Wasg

Gwobrau mawr i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe wedi ennill dwy wobr pwysig am bensaernïaeth a dylunio.

Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'r atyniad £33 miliwn wedi cael ei ddewis i ennill gwobr RIBA (Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain), ac wedi ennill clod mawr yn rhan o'r Gwobrau Dylunio Dur Strwythurol.

Cyflwynir Gwobrau RIBA am adeiladau â safonau pensaernïol uchel sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at yr amgylchedd lleol.

Mae'r ddwy wobr yn cydnabod y cysylltiad di-dor rhwng yr hen stordy rhestredig Graddfa II a'r orielau newydd, Meddai Beirniaid y wobr ddur: “Mae'r canlyniad yn glasur o'i fath”.

Dyluniwyd yr Amgueddfa, sydd wedi  denu dros 140,000 o ymwelwyr ers ei hagor fis Hydref diwethaf, gan gwmni penseiri Wilkinson Eyre.

Cafodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau grant £11 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri - sef y grant mwyaf erioed yng Nghymru. Crëwyd yr Amgueddfa diolch i bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe ac mae'n cynnwys hen stordy rhestredig Graddfa II ac adeilad newydd sbon o wydr a llechi. Lleolir yr Amgueddfa yn Ardal Forwrol Abertawe ac mae'n rhan o adfywiad yr ardal. Daeth gweddill yr arian o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, cyllid Amcan Un yr UE a chyfranwyr a noddwyr eraill.

Mae Dr Richard Bevins, Rheolwr Project yr Amgueddfa, yn dweud ei bod hi'n newyddion gwych. “Rydyn ni wrth ein bodd bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cael cydnabyddiaeth gan y ddwy set o feirniaid. Mae hyn yn gadarnhad clir o'r effaith y mae'r cynllun wedi ei gael ar adfywiad ardal y Marina, ac ar ansawdd y bensaernïaeth a'r dyluniad.”

A dywedodd Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, y Cyng. Chris Holley: “Rydw i wrth fy modd bod yr Amgueddfa'n ennill cydnabyddiaeth ar lwyfan genedlaethol. Mae hi'n amgueddfa o safon ryngwladol ac mae ei phensaernïaeth yn eithriadol. Mae hi'n newyddion gwych i'r Amgueddfa ac i Abertawe.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.