Datganiadau i'r Wasg

Dyfodol Arddangos Celf Cymru

(Datganiad i'r Wasg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru)

Heddiw [23 Mehefin 2006], mae Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd ag Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar arddangos celf Cymru yn y dyfodol.

Cafodd yr adroddiad ei gyd-gomisiynu yn sgil ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu oriel genedlaethol newydd. Mae'n tynnu ar nifer o ymgynghoriadau a rhaglenni sydd wedi'u cynnal yn ddiweddar i annog y cyhoedd i gymryd mwy o ran yn y celfyddydau a'r diwylliant gweledol cyfoes yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn ystyried dau faes cysylltiedig ond ar wahân, sef Oriel Genedlaethol i Gymru a pha mor ddymunol ac ymarferol fyddai sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes.

Meddai Alun Pugh: "Mae'r ddogfen bwysig hon yn gyfraniad pwysig at y drafodaeth am ddyfodol arddangos celf yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig rhai o'r opsiynau posib i'w trafod ymhellach. Byddaf yn ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen â'r cynigion hyn ar y cyd ag Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ac yng nghyd-destun y strategaeth ddiwylliant newydd rydym wrthi'n ei datblygu ar hyn o bryd. Mae'n amlwg y byddai goblygiadau ariannol sylweddol i unrhyw gynigion ar gyfer Oriel newydd. Byddai angen cynnal astudiaeth ddichonoldeb lawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan: “Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar yr astudiaeth ddichonoldeb.

“Yn y cyfamser, rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar brosiect mawr o gynnal a chadw a buddsoddi gyda'r bwriad o wella stiwardiaeth ein casgliadau celf, a chynyddu tua 40% ar ein gofod arddangos. Bydd hyn yn ein galluogi i arddangos celf gyfoes a chyflwyno celf ddiweddar a chelf hanesyddol mewn ffordd wahanol, ac yn galluogi'r casgliadau celf i adrodd ystod ehangach o hanesion. Mae'r prosiect yn rhan o'n gweledigaeth ehangach sef ennill ein plwyf fel amgueddfa addysgol o safon fyd-eang”.

Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Celf Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae'r adroddiad yn datgan yn glir yr heriau sy'n wynebu Cymru os ydyw am adeiladu ar ddatblygiadau Orielau ledled y wlad, yn ogystal ag adeiladu ar y proffil cenedlaethol sydd wedi datblygu yn sgil ein cynrychiolaeth yn Biennale Fenis a thrwy arddangosfeydd fel Artes Mundi. Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu'r posibiliadau ac yn creu gofod pwrpasol ar gyfer ein diwylliant gweledol yng Nghymru, ac rydym ni yng Nghyngor Celfyddydau Cymru am barhau i symud ymlaen a chyfrannu at wireddu'r cynigion yn yr adroddiad”

Notes for Editors

The report has been produced by consultants DCA and Peter Jenkinson OBE.

Mehefin 23, 2006

Lawrlwytho Dogfen

Display of Art in Wales report (PDF, 9.6mb)

Crynodeb Gweithredol (PDF, 92k)