Datganiadau i'r Wasg

Fflat Huw Puw yn Llanberis

Ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf, agorodd arddangosfa ar longau model J Glyn Davies yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Cafwyd prynhawn o weithgareddau, gan gynnwys sgwrs gan Dr David Jenkins, Uwch Guradur Diwydiant, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ar y modelau, ynghyd â chyfle i ymuno mewn môr o ganu gydag Elwyn Jones o Hogia'r Wyddfa.

Gadawodd deulu J Glyn Davies rai o'i longau model i Amgueddfa Cymru, a dydd Sadwrn oedd y tro cyntaf iddyn nhw gael eu harddangos yn gyhoeddus. Heddiw, mae'n siwr bod J Glyn Davies yn fwyaf enwog am rai o'i ganeuon i blant – Bwrw Glaw yn Sobor Iawn, Siôn Corn, ac wrth gwrs, Fflat Huw Puw.

Mae'r arddangosfa i'w gweld yn Llanberis tan ddiwedd Gorffennaf. Yna, bydd i'w gweld ar stondin Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru wedi cynhyrchu cyfres cyfyngedig o bosteri o rai o ganeuon enwocaf J Glyn Davies, ac mae'r rhain ar gael yn Amgueddfa Lechi Cymru drwy gydol mis Gorffennaf, ac fe fyddan nhw hefyd ar gael yn stondin Amgueddfa Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd ag yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae'r posteri yn cynnwys lluniau gwreiddiol gan Elin Williams, ac fe'u hatgynhyrchwyd drwy garedigrwydd Jano Williams.

Mae Amgueddfa Cymru yn cymryd rhan yn nathliadau Hanfod Hanes – I'r Gymru Fydd, sef prosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.