Datganiadau i'r Wasg

'Mam Cymru' yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cathryn o Ferain – mam Cymru yn ôl y sôn, oherwydd yr holl blant a llysblant oedd ganddi, ac am fod cynifer o deuluoedd yng ngogledd Cymru'n perthyn iddi.

Er ei bod yn byw dros bedair canrif yn ôl, mae paentiad enwog Adriaen van Cronenburgh yn dangos i ni sut yr oedd yn edrych, ac mae'r paentiad hwn yn rhan ganolog o arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar hyn o bryd. Mae Wynebau Cymru, yn cynnwys lluniau a ffotograffau pobl sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y 400 mlynedd diwethaf.

Roedd Cathryn yn ferch i Tudur ap Robert Fychan o Ferain, Sir Ddinbych, ac yn wyres i un o feibion anghyfreithlon Harri VII.  Priododd bedair gwaith a chafodd chwech o blant, ac o'r herwydd daeth i gael ei hadnabod fel ‘Mam Cymru'

Mab ac etifedd Syr John Salisbury o Lawenni oedd ei gŵr cyntaf, John. Bu farw yntau ym 1556 ac aeth Cathryn ymlaen i briodi Syr Richard Clough, masnachwr cyfoethog o Ddinbych oedd yn byw yn Antwerp a Hambwrg. Bu ef farw ym 1570, a daeth Cathryn yn nôl i Ferain yn wraig weddw gyfoethog. Priododd Morris Wynn o Wydir, ond bu farw yntau ym 1580. Yn olaf, priododd Edward Thelwall o Blas y Ward ym 1584 pan oedd hi'n 50 oed. Bu farw Cathryn bum mlynedd yn ddiweddarach, ac fe'i claddwyd yn eglwys Llanefydd.

Daw'r detholiad o weithiau o gasgliad Amgueddfa Cymru, a chymeriadau Cymreig adnabyddus yw llawer o'r modelau.  Mae rhai'n enwog ar lwyfan ryngwladol, er nad yw eu gwreiddiau Cymreig yn adnabyddus. Mae'r arddangosfa i'w gweld tan 24 Medi 2006.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y broses o ail-ddatblygu ei horielau celf. Bydd rhai orielau celf ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n . Am wybodaeth ynglŷn â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch 029 2039 7951. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.