Datganiadau i'r Wasg

Gweledigaeth Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi cynnal tri digwyddiad cyhoeddus i drafod ei Gweledigaeth a'i datblygiad dros y deng mlynedd nesaf i fod yn Amgueddfa Ddysg o Safon Ryngwladol.

Themâu'r digwyddiadau arbennig, a gynhaliwyd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, oedd hanes, celf a gwyddoniaeth.

Roedd y digwyddiadau yn gyfle i glywed Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, yn cyflwyno'r Weledigaeth, cyn i'r drafodaeth gael ei hagor allan i banel o arbenigwyr yn y tri maes. Bu'r Amgueddfa yn gweithio ar y Weledigaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf dan arweiniad Michael Houlihan. Y llynedd bu'n ymgynghori ar ei chynnwys gydag ymwelwyr, cyfeillion, cefnogwyr a'r rheini yn y maes. Bwriad y digwyddiadau yw rhoi cyfle i'r rhai fu'n dweud eu dweud i glywed sut y bydd y cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Bu Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh, yn siarad yn un o'r digwyddiadau, a meddai:

"Wrth i'r Amgueddfa nesau at ei chanmlwyddiant, mae'n amserol i ni ystyried sut bydd yn cychwyn ar ei hail ganrif. Rwy'n croesawu'r Weledigaeth a'r cyfle mae wedi'i greu i'r cyhoedd leisio'u barn ar ddyfodol sefydliad cenedlaethol mor bwysig.” Bydd cyfle i ymuno mewn trafodaeth arbennig yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis am 2.30pm, ddydd Gwener 21 Gorffennaf. I sicrhau lle yn y gynulleidfa cysylltwch â Kay Hanson ar (029) 2057 3328; e-bost rsvp@amgueddfacymru.ac.uk. Mae llefydd yn brin felly mae'n rhaid cysylltu ymlaen llaw.

Bydd recordiadau arbennig o'r pedwar cyfarfod yn ymddangos ar ein gwefan cyn diwedd Gorffennaf 2006.

Mae Amgueddfa Cymru yn cymryd rhan yn nathliadau Hanfod Hanes – I'r Gymru Fydd, sef prosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r tudalennau .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.