Datganiadau i'r Wasg

Gorffennaf yn yr Amgueddfeydd

Dewch yn eich miloedd i un o safleoedd Amgueddfa Cymru yn ardal Caerdydd yn ystod mis Gorffennaf!

Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru rhywbeth i bawb. O archaeoleg i wyddoniaeth, mae ein gweithgareddau yn llawn gwybodaeth ac yn llond lle o hwyl.

Ein hynafiaid yw prif thema Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, i gyd-fynd a'r arddangosfa Marwolaeth yng Nghymru: 4000-3000 CC sydd ymlaen ar hyn o bryd.

Bydd cyfres o arddangosfeydd yn Oriel Ddarganfod Glanely yn edrych ar sut roedd pobl cynhanesyddol yn cofio'u hynafiaid. Straeon y sgerbydau fydd thema Sesiynau Gwnewch Rhywbeth Gwahanol - cyfle i glywed beth mae gwyddonwyr yn gallu'i ddysgu am esgyrn sydd wedi gorwedd yn y ddaear am gannoedd o flynyddoedd.

Yn ogystal a'r rhain, wrth gwrs, mae'r arddangosfa Wynebau Cymru - portreadau o bobl sydd wedi cyfrannu at fyd diwylliant, gwleidyddiaeth ac economeg Cymru dros y 500 mlynedd diwethaf ymlaen tan 24 Medi.

Dewch draw i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i glywed beth ddylech fod yn ei wneud yn y berllan yr adeg hon o'r flwyddyn, neu dewch am dro o gwmpas y gerddi gyda ni a dysgu o lle daw enwau gwahanol blanhigion. Ar ddydd o haf, chewch chi unman gwell na gerddi gwyrddion Sain Ffagan.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau .

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.