Datganiadau i'r Wasg

'Samplwch' holl ryfeddodau Amgueddfa Wlân Cymru dros yr haf

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr haf, beth am alw draw i Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre?

Bydd yr amgueddfa, sy'n un o deulu Amgueddfa Cymru, yn cynnal cyfres o sgyrsiau a gweithdai ar thema tecstilau, gan gynnig rhywbeth at ddant pawb.

Gyda'r Gymdeithas Rygwaith â Bachyn-Llaw Ryngwladol yn cynnal eu cynhadledd yma yng Nghymru ym mis Hydref eleni, mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi bod yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo'r grefft arbennig yma fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y gynhadledd.

Ar 29 Gorffennaf, bydd yr artist tecstilau Jane Dorsett yn arwain gweithdy rygiau plethu yn yr Ystordy Ymchwil, sef ystafell Addysg Cyffwrdd-a-Gwneud yr Amgueddfa. Os oes diddordeb gennych chi ffoniwch y Gymdeithas ar (01239) 711733.

Os ydych chi'n ymddiddori mewn sampleri, bydd gwledd yn eich disgwyl chi yn yr amgueddfa ym mis Awst, wrth i'r artist tecstilau enwog Susan Smith rannu ei phrofiadau. Bydd y cyfan yn dechrau ar 12 Awst gyda sgwrs arbennig ar Sampleri - Crefft Gudd, am 11.00 am. (Cynhelir y sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg).

Bydd Susan yn arwain dau weithdy neu ddosbarth ar gynllunio a gwneud eich sampleri eich hunain ar 18 a 29 Awst,.

Bydd y gweithdai hyn ar gyfer dechreuwyr a phobl fwy profiadol sydd am gael cyngor mwy arbenigol ar bwythwaith. Ffoniwch Kate Evans yn yr amgueddfa i drafod pa lefel o arbenigedd sydd gennych chi ym maes pwythwaith/dylunio. Pris y gweithdai diwrnod hyn fydd £25, sy'n cynnwys cinio a rhai defnyddiau. Rhaid bwcio.

I gael rhagor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau hyn, ffoniwch Amgueddfa Wlân Cymru ar (01559) 370929 a gofynnwch am Kate Evans. Mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi dathliadau Hanfod Hanes – I'r Gymru Fydd, sef project ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. I gael rhagor o fanylion ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.