Datganiadau i'r Wasg

Llond lle o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan ar faes yr Eisteddfod

Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, byddwch yn sicr o gael eich diddori wrth ymweld â stondin Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod eleni.

Mae gennym lond lle o weithgareddau o bob math – o fwynhau rhai o ffilmiau Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell i ddysgu sut mae peintio yn steil y canol oesoedd. Ac os taw diwydiant sy'n eich diddori, cofiwch am ein cyfres o sgyrsiau amser cinio – o ddydd Llun i ddydd Gwener am 12.00 pm.

Mae'r Amgueddfa a'r Llyfrgell yn cydweithio am y tro cyntaf ar faes yr Eisteddfod eleni, a rydym wedi rhoi rhaglen arbennig at ei gilydd i ddenu pobl o bob oed i'n stondin.

Eisiau cwrdd â Bardd Cenedlaethol Cymru? Dewch draw am 3.00 brynhawn Mercher. Eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft? Galwch mewn unrhyw bryd i weld tîm Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Eisiau prynu anrhegion chwaethus ar gyfer rhywun arbennig? Lle gwell na'n siop o safon sy'n cynnwys y gorau sydd gan ddau brif sefydliad diwylliannol Cymru i'w cynnig?

Bydd rhywbeth i'w weld a'i wneud drwy'r dydd bob dydd, felly dewch draw i'n gweld. Cofiwch hefyd am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – aelod mwyaf newydd teulu Amgueddfa Cymru, sy'n adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yng Nghymru. Dewch i'n gweld os ydych yn chwilio am hoe o hwyl y ŵyl. A chyda mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae'n ddiwrnod allan heb ei ail.

Mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu eu canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau a www.llgc.org.uk.