Datganiadau i'r Wasg

Hâf ar y Glannau

Mae haf llawn lliw a seiniau braf yn disgwyl Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dyma'n haf cyntaf, a byddwn ni'n dathlu mewn steil gyda hwyl i'r teulu cyfan. Bydd cerddoriaeth, dawns a llawer iawn mwy...

O siantis môr a morladron, i ddrymiau bongo a fflamenco, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw'r lle i fod – ac mae'r cyfan am ddim.

Mae'r Amgueddfa £33.5 miliwn yma wrth galon Ardal Forwrol Abertawe, ac mae'n estyn ffiniau technoleg wrth adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru.

Ac i ychwanegu at y cyfan, mae rhai o'r creiriau diwydiannol hynaf o bob cwr o'r wlad.

Mae'r adeilad ei hun yn gymysgedd trawiadol o'r hen a'r newydd sy'n cysylltu hen stordy rhestredig ag adeilad newydd hynod o wydr a llechi. Dyma lle daw'r ddinas a'r marina ynghyd, gyda siopau a chaffis yn creu canolfan lewyrchus llawn adloniant, diwylliant a dysg.

Gyda phob math o weithgareddau llawn hwyl i bawb o'r plantos lleiaf i'r pensiynwyr, mae rhywbeth yma at ddant pawb. Dyma ragflas o'r pethau sydd ar gael, ond ewch i'r wefan www.amgueddfayglannau.co.uk neu ffoniwch 01792 638950 i gael rhagor o wybodaeth.

Gŵyl MôrTawe, 8 a 9 Gorffennaf 11am-5pm
Dyma ŵyl haf ddiweddaraf Abertawe, ond mae'n cadw'r hen ffefrynnau o Ŵyl Forol a Siantis y ddinas. Ymunwch â ni i ganu siantis a mwynhau cerddoriaeth werin, crefftau a gweithgareddau i'r plant, ynghyd ag arddangosfeydd, hwylio a gweithgareddau ar y dŵr.

Gŵyl Dyddiaudawns, 15 a16 Gorffennaf 10am-5pm
Ymunwch â ni am bob math o berfformiadau a gweithgareddau dawns.

Strydoedd Braf, Seiniau'r Haf, 22 Gorffennaf 12-4pm
Dathliad o liwiau a seiniau'r haf gyda Samba Tawe a'u cyfeillion.

BIG BUZZ Radio Wales, 23 Gorffennaf 2pm-8pm
Cerddoriaeth fyw gydag artistiaid amlwg a chyw-artistiaid o'r ardal leol.

Penwythnos Crefftau, 29-30 Gorffennaf 12-4.30pm
Dewch draw i roi cynnig ar rai o sgiliau traddodiadol a modern.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n

Nodiadau i Olygyddion:

Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe'i dyluniwyd gan gwmni penseiri Wilkinson Eyre a datblygwyd yr orielau newydd gan Land Design Studio mewn cydweithrediad agos â thîm Amgueddfa Cymru. Datblygwyd yr arddangosfeydd rhyngweithiol gan Land Design Studio ar y cyd â New Angle. Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

(1) Cyllid:
Rhoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei grant mwyaf erioed yng Nghymru erioed i'r Project. Cafwyd cyllid pellach gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, cronfeydd Amcan 1 yr UE ynghyd â noddwyr a rhoddwyr eraill.

(2) Oriau agor a'r wefan:
Mae'r Amgueddfa ar agor bob dydd rhwng 1000 â 1700; Mynediad am ddim; i gael rhagor o wybodaeth ewch i www.amgueddfayglannau.co.uk; ffôn 01792 638950