Datganiadau i'r Wasg

Celfyddyd yn cwrdd â diwydiant yn Eisteddfod Abertawe

Blue MacAskill – Artist Comisiwn gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Mae Blue MacAskill, artist, ffotograffydd, a gwneuthurwraig ffilmiau, wedi cael ei chomisiynu gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru i greu gwaith ar gyfer yr Eisteddfod, sef yr ŵyl ddiwylliannol flynyddol awyr-agored fwyaf yng Ngorllewin Ewrop, a gynhelir yn Abertawe rhwng 5 a 12 Awst 2006.

Hanes diwydiannol Abertawe a rôl gwragedd mewn diwydiant yn arbennig yw'r hyn sy'n ysbrydoli gwaith Blue. Dechreuodd waith ymchwil ym mis Ebrill yn yr Amgueddfa a agorwyd y llynedd fel amgueddfa hanes diwydiannol Cymru. Bydd peth o'i gwaith yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa ar ôl yr Eisteddfod.

Bydd hanes safle'r Eisteddfod Genedlaethol yn Felindre – hen weithfeydd tunplat ar gyrion Abertawe – yn cael ei adrodd o lygad y ffynnon yn atgofion y gwragedd a weithiai yno (gweler y nodiadau isod) ac a weithiodd olaf yn y diwydiant ym 1957.

Mae Blue yn galw ei gwaith yn ‘sioe', a bydd y gwaith yn cael ei symud i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol. ‘…Bydd yn sioe sy'n anadlu ac yn parhau i ddatblygu gan roi golwg newydd ar bethau wrth i bob unigolyn weld rhywbeth y maent yn gallu perthnasu ag o…'.

Dyma'r themâu sydd wedi'u datblygu hyd yma: Blue Iris – Trafodaeth rhwng cenedlaethau ynglŷn ag Abertawe ac agwedd y ddinas tuag at wragedd, diwydiant a diwylliant Cymru. Cwiltio'r Map – Cwilt mawr Abertawe a ddatblygwyd o deithiau'r bobl a oedd yn ymwneud â'r gweithfeydd tunplat a'r diwydiant hel cocos. Cwestiynau ar Arferion Byw yn y Bae – prosiect celf-bost rhwng yr artist a phobl gyffredin Crysau T ac Etifeddiaeth – prosiect ffotograffiaeth sy'n golygu argraffu atgofion hen weithwyr tunplat ar grysau-t i'w gwisgo gan y genhedlaeth nesaf. Croeso i Felindre – Atgoffa plant Ysgol Felindre ynglŷn â hanes y gweithfeydd tunplat a fu gynt ar y safle.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Blue MacAskill: http://www.bluemacaskill.com/museum/waterfront.html.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe wedi ymrwymo i ddefnyddio celf fel dull o wella profiad y cyhoedd mewn amgueddfeydd. Y tu allan i'r fynedfa, ceir cerflun diweddar gan Gordon Young, pobl+machines - pobl a pheiriannau, sef hanes yr Amgueddfa ei hun. Llythrennau mawr dur caboledig a choncrid yw'r gwaith, sy'n sillafu'r geiriau yn ôl yr wyddor Bifur, a ddyfeisiwyd gan Adolphe Cassandre ym 1929, gan adlewyrchu'r thema ddiwydiannol. Mae enwau Cymraeg a Saesneg gwrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa wedi cael eu castio ar wyneb uchaf pob llythyren.

Mae'r Amgueddfa hefyd wedi cynnal dwy o Arddangosfeydd Gradd Athrofa Abertawe, arddangosfa Ysgol Gwydr Pensaernïol Cymru (cwrs gwydr lliw yr Athrofa yw un o'r cyrsiau pwysicaf o'i fath yn y DU) a'r Ysgol Animeiddio a'r Cyfryngau Digidol. Mae myfyrwyr o un o ysgolion eraill yr Athrofa wedi creu gwaith dros dro yn yr oriel fetelau sy'n cynnwys baneri o ddeunydd wedi'i ysgythru, a grëwyd drwy rydu metelau ar ôl eu claddu dros nos yn nhywod Bae Caerdydd .

Mae'r adeilad gwobrwyedig dramatig o wydr, dur a llechi gan Wilkinson Eyre yn lleoliad cyffrous ar gyfer arddangosfeydd celf, naill ai drwy ddefnyddio'r ‘stryd' fawr sy'n cysylltu'r naill adeilad a'r llall neu'r orielau eu hunain.

Mae Amgueddfa Cymru yn rhedeg saith o amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgeuddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am fwy o fanylion ewch i'r tudalennau .

Rhoddir mynediad am ddim i'r holl amgueddfeydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i'r Golygyddion:

1 - Y Diwydiant Tunplat: Yn yr 20fed ganrif, byddai tua 1,000 o felinoedd rholio tunplat yn gweithredu yn ne Cymru; mae'r Amgueddfa'n arddangos melin dunplat o weithfeydd Melin Griffith, enghraifft brin a gafodd ei hadfer gan Corus i'r Amgueddfa er mwyn iddi weithio eto. Byddai'n cynhyrchu haenau tenau o ddur ar gyfer tun, allgynnyrch hynod o bwysig i Gymru. Byddai gwragedd yn gweithio yn y diwydiant tunplat yn ne Cymru - eu gwaith pennaf oedd gwahanu'r haenau o dunplat wrth iddynt gael eu plygu a glynu wrth ei gilydd. Byddent yn defnyddio ‘hangar' - rhyw fath o gleddyf. Roedd y gwaith o natur drom, ac ychydig o wragedd oedd yn gweithio yn y diwydiannau trwm yn gyffredinol yng Nghymru. Roedd y diwydiant tunplat yn eithriad, gydag oddeutu 15 y cant o'r gweithlu'n fenywod, a'r rhan fwyaf ohonynt yn ifanc ac yn sengl.

2 - Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Abertawe rhwng 5 a 12 o Awst 2006. Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk <http://www.eisteddfod.org.uk>.

3 - Astudiodd Blue MacAskill yng Ngholeg Gelf Camberwell, ac yna yn Ysgol Gelf Ruskin yn Rhydychen. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Wimbledon. Enillodd Wobr y Celfyddydau a Dyniaethau 2003. Arddangosfeydd, a dangosiadau ffilm a fideo diweddar yn Athen, Klaipeda yn Lithwania, Sweden, Caerdydd, Llundain, Caer-wynt, Ffraw, Bryste a Rhydychen. Mae MacAskill wedi ysgrifennu a chyhoeddi yn y cylchgrawn Contemporary and leisure Art. Yn ddiweddar, cafodd ei henwebu ar gyfer tair gwobr yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Abertawe, ac fe gyhoeddwyd mai hi oedd Gwneuthurwraig Ffilmiau Mwyaf Addawol 2006. Mae MacAskill yn byw ac yn gweithio yn Llundain a Llandrindod, Powys.

4 - Amgueddfa Wobrwyedig: Mae Gwobr RIBA wedi cael ei dyfarnu i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae'r Amgueddfa hefyd wedi cael ei chanmol yn rhan o'r Gwobrau Dylunio Dur Strwythurol.

5 - Digwyddiadau'r haf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: Manylion ar y we neu ffoniwch (01792) 638950. Mae'r Amgueddfa ar agor bob dydd rhwng 10.00 a 17.00 (a than 20.00 ar ddydd Mercher drwy gydol mis Awst a mis Medi 06). Mynediad am ddim.

Os ydych am gael cyfweliad â Blue MacAskill neu gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: Fay Harris, Swyddog y Wasg a Marchnata, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ffôn (01792) 638970; E-bost Fay Harris