Datganiadau i'r Wasg

Hanfod Hanes...I'r Gymru Fydd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau oedd lleoliad brecwast arbennig a drefnwyd gan Amgueddfa Cymru fel rhan o ddathliadau Hanfod Hanes...I’r Gymru Fydd.

Daeth dros hanner cant o westeion at ei gilydd i glywed am bwysigrwydd hanes i bobl o bob oed, ac roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i glywed am rai o gynlluniau cyffrous Amgueddfa Cymru i drawsnewid Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i fod yn amgueddfa sy’n adrodd hanes Cymru drwy’r oesoedd.

Bu’r Athro Prys Morgan yn sôn am bwysigrwydd hanes ynghyd â phwysigrwydd cael sefydliadau cenedlaethol fel yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol – a oedd yn cydweithio ar Faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf eleni.  Yna, soniodd Michael Houlihan am Weledigaeth Amgueddfa Cymru a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn creu amgueddfa ddysg o safon ryngwladol.  Dywedodd:

"Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda phrif sefydliadau diwylliannol cenedlaethol eraill Cymru sy'n hyrwyddo pwysigrwydd hanes.  Os nad oes gan gymdeithas ddealltwriaeth o'i gorffennol - yn dda neu’n ddrwg - ni all wneud penderfyniadau deallus am ei dyfodol.

"Dyma pam rydym ni'n ymroddedig i'r cysyniad o ddatblygu amgueddfa hanes cenedlaethol ar gyfer Cymru - gan ddechrau wrth gynyddu'r hyn a ddehonglir yn Sain Ffagan, er mwyn creu llinell amser hanesyddol glir a chyfleoedd i archwilio'r gwahanol lefelau cymhleth o brofiadau personol a greodd ein cymdeithas a'r unigolion sy'n byw yng Nghymru heddiw. Dyma fydd y rhan gyntaf o brosiect deng mlynedd i greu amgueddfa genedlaethol archaeoleg a hanes yn Sain Ffagan."

Prosiect a drefnir gan Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes a’i fwriad yw tynnu sylw pawb at bwysigrwydd hanes yn ein bywydau ni i gyd.  Bydd cyfle i ddweud eich dweud ar hyd a lled Cymru dros y misoedd nesaf, gyda chardiau post arbennig yn cael eu dosbarthu yn holl safleoedd Amgueddfa Cymru, Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.