Datganiadau i'r Wasg

Hanes ‘ llwyau traddodiadol’

Lansio llyfr newydd Gwyndaf Breese yn Sain Ffagan: Amguedddfa Werin Cymru

Bu’r crefftwr Gwyndaf Breese yn arddangos ei grefft ac yn arwyddo copïau o’i lyfr newydd ‘Llwyau Traddodiadol’ ar ddydd Sadwrn 19 Awst 2006 yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru – atyniad mwyaf poblogaidd Cymru.

Cafodd ymwelwyr i Sain Ffagan dydd Sadwrn y cyfle i ddysgu hanes sut y datblygodd y llwy gegin yn un o eiconau mwyaf poblogaidd Cymru - y llwy garu. Bu Mr Breese, a fu’n gweithio yn Sain Ffagan, yn arddangos cerfio syml y llwy bren wreiddiol, cynlluniau mwy manwl y llwy garu ac yn ateb cwestiynau ar hanes cerfio llwyau.

Dywedodd John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Gweithredu yr Amgueddfeydd:

“Roedden ni’n falch iawn i groesawu Gwyndaf Breese, arbenigwr ar waith crefftwyr cerfio, naddu a thurnio pren Cymru, yn ôl i Sain Ffagan i lansio’r gyfrol ‘Llwyau Traddodiadol’. Mae’r llyfr yn gyfle da i arddangos un o grefftau cynhenid y Cymry ac yn gweddu’n berffaith â’n casgliadau ni yma yn yr Amgueddfa Werin.”

Cyhoeddwyd ‘Llwyau Traddodiadol,’ un o Gyfres y Grefft, gan Gwasg Carreg Gwalch. Mae’r llyfr ar werth yn siop Sain Ffagan yn ogystal â siopau llyfrau da eraill ar draws y wlad.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad AM DDIM i’r amgueddfa sydd ar agor o 10 am – 5 pm bob dydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.