Datganiadau i'r Wasg

Gwahoddiad i barti ‘Lady Hutt’

Bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn dathlu pen-blwydd ‘Lady Hutt’ yn 100 oed dydd Sadwrn yma, 2 Medi 2006.

Ond yn anarferol, cynhelir y parti hwn yng ngwinwydd-dy yr Amgueddfa sydd newydd gael ei hadfer, oherwydd gwinwydd yw Lady Hutt sydd yn dyddio nôl i 1906. Canfyddir Lady Hutt yng ngerddi gogoneddus Sain Ffagan, sydd yn cael eu hadnabod fel rhai o erddi pennaf Cymru.

Bydd yr Amgueddfa Werin, on o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, yn dathlu pen-blwydd arbennig y Lady Hutt gyda sgyrsiau byr yn ystod y prynhawn (1,2,3 a 4 o’r gloch) ar hanes y gwinwydd a sut y’i chynhelir heddiw.

Dywedodd Juliet Hodgkiss, Uwch Cadwraethydd Gerddi a fydd yn cynnal rhai o’r sesiynau prynhawn ynghyd â Stephen Harries, Cadwraethydd Gerddi:

“Mae hon yn achlysur arbennig i’r Amgueddfa, ac yn un roeddwn ni am ei dathlu. Rydyn ni wrth ein boddau bod y Lady Hutt yn dal i dyfu yma ar ôl 100 mlynedd – adlewyrchiad o’r gofal a’r sylw a roddir iddi gan y gerddwyr yn Sain Ffagan.

“Rydyn ni’n ffodus iawn i gael gerddi sydd yn dirnad bywydau’r Cymry mor effeithiol. O erddi ffurfiol y boneddigion hyd at y gerddi cartref â bwyd ar gyfer teuluoedd y dosbarth gweithiol, maen nhw’n rhan annatod o stori’r Amgueddfa. Serch hynny, yr hyn sydd yn gwneud y gerddi mor ddilys a diddorol i’r ymwelwyr yw manylion fel ‘Lady Hutt.’”

Bridwyd Lady Hutt yn wreiddiol yn 1891 yn y llecyn Fictorianaidd, Appley Towers, Ynys Wyth. Roedd y gwinwydd yn ffefryn gan y Fonesig Plymouth, a adroddir ei hanes drwy’r gerddi a’r castell yn Sain Ffagan. Planwyd Lady Hutt ar y safle yn 1906, a hi yw gwinwydd hynaf yr Amgueddfa erbyn hyn.

Cynhyrchir clystyrau o rawnwin bwrdd yn Sain Ffagan gan gynnwys Muscats of Alexandria, Fosters Seedling a Black Hamburg. Maent i gyd ar werth yn yr Amgueddfa yn eu tymor.

Ceir mynediad am ddim i’r Amgueddfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, am rhagor o wybodaeth ffoniwch (029) 2057 3454.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.