Datganiadau i'r Wasg

Oes unrhyw beth gwell na thail teigr i'ch tiwlips?

Gyda rhinweddau tail teigr yn y newyddion ar hyn o bryd, bydd y rheini ohonoch sy’n mwynhau potsian yn yr ardd yn falch o glywed bod tail llewod a thail unrhyw gath fawr yn llesol i’r llysiau, yn ôl arbenigwyr Amgueddfa Cymru.

Felly os yw’ch cennin pedr yn crebachu neu’ch gwyddfid wedi gwywo, beth am gysylltu â’ch sŵ leol i ofyn os y gallwch gael tamaid o’r tail gorau i adfywio’r ardd?

Meddai arbenigwr anifeiliaid Amgueddfa Cymru, Peter Howlett:

“Mae rhai adroddiadau yn sôn am lwyddiant tail cathod mawr, ond mewn gwirionedd does dim sicrwydd ei fod yn gweithio. Y cysyniad yw bod cathod yn arogli’r tail ac yn meddwl bod anifail arall eisoes wedi hawlio’r tir, ac felly yn osgoi’r ardd.

“Ond wedi dweud hynny, efallai na fydd y tail yn para’n hir, a bydd angen ei newid yn aml i sicrhau ei fod yn cadw’n ffres. Felly, heb gath fawr neu deigr yn yr ardd, gallai fod yn anodd a drud i sicrhau bod digon o dail ar gael drwy’r amser!”

Ond chi lwynogod a chathod, byddwch yn wyliadwrus! Mae oglau mawr ar gathod mawr! Felly, falle na fydd y gornel fach gyfforddus yr un mor ddeniadol unwaith bod tail y teigr streipïog wedi’i haenu ar ei thraws!

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i gasgliad hanes naturiol cenedlaethol Cymru, ac mae ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10.00 am–5.00 pm. Ceir mynediad am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau.