Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Arwr o Gymru - Diwrnod Owain Glyndŵr yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Mae Ryan Giggs, Tom Jones, Shirley Bassey a hyd yn oed Glyn Wise erbyn hyn yn rhai o arwyr Cymreig mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif ond dydd Sadwrn (16 Medi 2006) bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn dathlu cyfraniad un o arwyr pwysicaf hanes Cymru, Owain Glyndŵr, a sefydlodd senedd cyntaf Cymru ym Machynlleth yn 1404.

Bydd Sain Ffagan yn cynnal digwyddiad dau ddiwrnod dros y penwythnos er cof am Owain Glyndŵr, a frwydrodd dros annibyniaeth i Gymru yn y 15fed ganrif. Yn arweinydd cenedlaethol a ysbrydolodd y Cymry, gwrthryfelodd Glyndŵr yn erbyn llywodraeth Lloegr. Cyhelir cyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys ail-greu bywyd mewn gwersyll ddechrau’r 15fed ganrif a sgyrsiau am y ffigwr hanesyddol — yn Gymraeg am 2 y prynhawn ar ‘Y Mab Darogan’ ac yn Saesneg am 3.15 y prynhawn ar ‘Glyndŵr: reality, myth and legend’. Bydd y prifardd Iwan Llwyd hefyd yn arwain gweithdai ar thema Owain Glyndŵr.

Mae Ken Brassil, Swyddog Addysg yn Amgueddfa Cymru, wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws y wlad. Dywedodd:

“Roedd Owain Glyndŵr yn rhan mor allweddol o ddatblygiad Cymru fel cenedl, mae’n bwysig rhoi’r cyfle i’r genhedlaeth iau ddysgu mwy am hanes Cymru ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr. Rydyn ni’n dathlu ar Fedi’r 16eg oherwydd ar y diwrnod hwnnw yn 1400 daeth yn Dywysog Cymru, ac rydyn ni’n falch iawn i groesawu pobl ifanc i fod yn rhan o’r coffâd. “Byddwn yn cynnal cynhadledd fideo gydag Ysgol Llanwddyn ar y pwnc Glyndŵr yn Llanwddyn, a dangosir ffilm a grewyd gan Glwb Animeiddio Ysgol Gynradd Cwmfelinfach a enillodd wobr yng Nghystadleuaeth Etifeddiaeth Cymru. Bydd Iwan Llwyd hefyd yn cynnal gweithdy barddoni gydag Ysgol Albert Road.”

Ceir mynediad am ddim i’r Amgueddfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.